Bwrdeistref fetropolitan

Oddi ar Wicipedia

Math o ardal llywodraeth leol yn Lloegr yw bwrdeistref fetropolitan (Saesneg: metropolitan borough). Crëwyd y bwrdeistrefi metropolitan yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'r holl fwrdeistrefi hyn yn israniadau o siroedd metropolitan. Yn wreiddiol roedd y siroedd a'r bwrdeistrefi yn gweithredu mewn strwythur dwy haen o lywodraeth leol, ond ar ôl diddymwyd cynghorau y siroedd metropolitan gan Deddf Llywodraeth Leol 1985 daeth y bwrdeistrefi metropolitan yn awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir i bob pwrpas.

Mae 36 o fwrdeistrefi yn Lloegr:

Sir fetropolitan Bwrdeistrefi metropolitan
De Swydd Efrog



Barnsley
Doncaster
Rotherham
Sheffield
Glannau Merswy




Cilgwri
Knowsley
Lerpwl
St Helens
Sefton
Gorllewin Canolbarth Lloegr






Birmingham
Coventry
Dudley
Sandwell
Solihull
Walsall
Wolverhampton
Gorllewin Swydd Efrog




Bradford
Calderdale
Kirklees
Leeds
Wakefield
Manceinion Fwyaf









Bolton
Bury
Manceinion
Oldham
Rochdale
Salford
Stockport
Tameside
Trafford
Wigan
Tyne a Wear




De Tyneside
Gateshead
Gogledd Tyneside
Newcastle upon Tyne
Sunderland

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]