Bwrdeistref Fetropolitan Trafford
| Math | bwrdeistref fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
| Prifddinas | Stretford |
| Poblogaeth | 237,579 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 106.0447 km² |
| Uwch y môr | 30 metr |
| Yn ffinio gyda | Dinas Manceinion, Dinas Salford, Bwrdeistref Warrington, Ashley |
| Cyfesurynnau | 53.4333°N 2.3°W |
| Cod SYG | E08000009 |
| GB-TRF | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | executive of Trafford Metropolitan Borough Council |
| Corff deddfwriaethol | council of Trafford Metropolitan Borough Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Trafford Metropolitan Borough Council |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Trafford (Saesneg: Metropolitan Borough of Trafford).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 106 km², gyda 237,354 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Salford i'r gogledd, Dinas Manceinion i'r dwyrain, a Swydd Gaer i'r de ac i'r gorllewin.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn bedwar plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn Stretford. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Altrincham, Partington a Sale.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 23 Awst 2020
