Bwrdeistref Warrington
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref, ardal an-fetropolitan, sir an-fetropolitan, district council area |
|---|---|
| Poblogaeth | 209,547 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 180.6279 km² |
| Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Wigan |
| Cyfesurynnau | 53.3889°N 2.5961°W |
| Cod SYG | E06000007 |
| GB-WRT | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Warrington Borough Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Warrington (Saesneg: Borough of Warrington).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 181 km², gyda 210,014 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Halton i'r de-orllewin, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer i'r de, Dwyrain Swydd Gaer i'r de-ddwyrain, Manceinion Fwyaf i'r dwyrain ac i'r gogledd, a Glannau Merswy i'r gogledd-orllewin.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Gaer, ond daeth yn awdurdod unedol ar 1 Ebrill 1998.
Rhennir y fwrdeistref yn 18 o blwyfi sifil, yn ogystal ag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Warrington ei hun. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys tref Birchwood.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 15 Medi 2020
