Gorllewin Swydd Gaer a Chaer
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Swydd Gaer, Caer |
| Prifddinas | Caer |
| Poblogaeth | 340,502 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 916.7005 km² |
| Uwch y môr | 745 troedfedd |
| Yn ffinio gyda | Dwyrain Swydd Gaer, Swydd Amwythig, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Sir y Fflint, Glannau Merswy, Bwrdeistref Halton, Bwrdeistref Warrington |
| Cyfesurynnau | 53.213°N 2.902°W |
| Cod SYG | E06000050 |
| GB-CHW | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Cheshire West and Chester Council |
![]() | |
Awdurdod unedol gyda statws bwrdeistref yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Gorllewin Swydd Gaer a Chaer (Saesneg: Cheshire West and Chester).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 917 km², gyda 343,071 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Glannau Merswy, Bwrdeistref Halton a Bwrdeistref Warrington i'r gogledd, Dwyrain Swydd Gaer i'r dwyrain, Swydd Amwythig i'r de, a Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Sir y Fflint i'r gorllewin.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 2009. Disodlodd yr hen ardaloedd an-fetropolitan Bwrdeistref Ellesmere Port a Neston, Bwrdeistref Vale Royal a Dinas Caer a ddaeth i gyd o dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Gaer, a ddiddymwyd ar yr un dyddiad.
Rhennir Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn 114 o blwyfi sifil, yn ogystal â dwy ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Ellesmere Port a dinas Caer. Mae aneddiadau eraill yn y fwrdeistref yn cynnwys trefi Frodsham, Neston, Northwich a Winsford.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 13 Medi 2020
