Dwyrain Swydd Gaer
| Math | bwrdeisdref, ardal awdurdod unedol yn Lloegr |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Swydd Gaer |
| Prifddinas | Sandbach |
| Poblogaeth | 380,790 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,166.3576 km² |
| Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Stockport |
| Cyfesurynnau | 53.1622°N 2.2175°W |
| Cod SYG | E06000049 |
| GB-CHE | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Cheshire East Council |
![]() | |
Awdurdod unedol gyda statws bwrdeistref yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Dwyrain Swydd Gaer (Saesneg: Cheshire East).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,166 km², gyda 384,152 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Orllewin Swydd Gaer a Chaer i'r gorllewin, Bwrdeistref Warrington i'r gogledd-orllewin, Manceinion Fwyaf i'r gogledd, Swydd Derby i'r dwyrain, Swydd Stafford i'r de-ddwyrain, a Swydd Amwythig i'r de.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 2009. Disodlodd yr hen ardaloedd an-fetropolitan Bwrdeistref Macclesfield, Bwrdeistref Congleton a Bwrdeistref Crewe a Nantwich a ddaeth i gyd o dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Gaer, a ddiddymwyd ar yr un dyddiad.
Rhennir Dwyrain Swydd Gaer yn 148 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Sandbach. Mae aneddiadau eraill yn y fwrdeistref yn cynnwys Alsager, Bollington, Congleton, Crewe, Knutsford, Macclesfield, Middlewich, Nantwich, Poynton, a Wilmslow.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 15 Medi 2020
