Bwrdeistref Fetropolitan Bolton
| Math | bwrdeistref fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
| Prifddinas | Bolton |
| Poblogaeth | 298,903 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 139.7923 km² |
| Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Bury, Dinas Salford, Bwrdeistref Fetropolitan Wigan, Bwrdeistref Chorley, Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen |
| Cyfesurynnau | 53.5775°N 2.43°W |
| Cod SYG | E08000001 |
| GB-BOL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | executive of Bolton Metropolitan Borough Council |
| Corff deddfwriaethol | council of Bolton Metropolitan Borough Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Bolton Metropolitan Borough Council |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Bolton (Saesneg: Metropolitan Borough of Bolton).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 140 km², gyda 287,550 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Fetropolitan Bury i'r dwyrain, Dinas Salford i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Wigan i'r gorllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn dri phlwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Bolton lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Blackrod, Farnworth, Horwich, Kearsley a Westhoughton.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 22 Awst 2020
