Dinas Manceinion
| Math | bwrdeistref fetropolitan, ardal gyda statws dinas |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
| Prifddinas | Manceinion |
| Poblogaeth | 568,996 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Bev Craig |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 115.6486 km² |
| Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Bury, Bwrdeistref Fetropolitan Oldham, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale, Dinas Salford, Bwrdeistref Fetropolitan Stockport, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside, Bwrdeistref Fetropolitan Trafford |
| Cyfesurynnau | 53.41667°N 2.25°W |
| Cod SYG | E08000003 |
| GB-MAN | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | gweithrediaeth Cyngor Dinas Manceinion |
| Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Dinas Manceinion |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arweinydd Cyngor Dinas Manceinion |
| Pennaeth y Llywodraeth | Bev Craig |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Dinas Manceinion (Saesneg: City of Manchester).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 116 km², gyda 552,858 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Trafford a Dinas Salford i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Bury a Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale i'r gogledd, Bwrdeistref Fetropolitan Oldham, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside a Bwrdeistref Fetropolitan Stockport i'r dwyrain, a Swydd Gaer i'r de.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Mae'r fwrdeistref yn ddi-blwyf am y rhan fwyaf, gydag un plwyf sifil (Ringway) i'r de. I bob pwrpas mae gan y fwrdeistref yr un ffiniau â dinas Manceinion.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 24 Awst 2020
