Bwrdeistref Fetropolitan Tameside
![]() | |
Math |
bwrdeistref fetropolitan ![]() |
---|---|
| |
Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
Prifddinas |
Ashton-under-Lyne ![]() |
Poblogaeth |
225,197 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
103.1543 km² ![]() |
Uwch y môr |
151 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
53.49°N 2.0942°W ![]() |
Cod SYG |
E08000008 ![]() |
GB-TAM ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
gweithrediaeth Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Tameside ![]() |
Corff deddfwriaethol |
cyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Tameside ![]() |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Tameside (Saesneg: Metropolitan Borough of Tameside).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 103 km², gyda 226,439 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Stockport i'r de, Dinas Manceinion i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Oldham i'r gogledd, a Swydd Derby i'r dwyrain.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Mae'r rhan fwyaf o'r fwrdeistref yn ddi-blwyf, gyda dim ond un plwyf sifil, sef Mossley. Mae ei phencadlys yn nhref Ashton-under-Lyne. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Audenshaw, Denton, Droylsden, Dukinfield, Hyde, Mossley a Stalybridge.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ City Population; adalwyd 21 Awst 2020