Bwrdeistref Fetropolitan Oldham
| Math | bwrdeistref fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
| Prifddinas | Oldham |
| Poblogaeth | 237,628 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 142.345 km² |
| Uwch y môr | 542 metr |
| Yn ffinio gyda | Dinas Manceinion, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside, Bwrdeistref High Peak |
| Cyfesurynnau | 53.5419°N 2.1186°W |
| Cod SYG | E08000004 |
| GB-OLD | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | gweithrediaeth Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Oldham |
| Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Oldham |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Oldham Metropolitan Borough Council |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Oldham (Saesneg: Metropolitan Borough of Oldham).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 142 km², gyda 237,110 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Tameside i'r de, Dinas Manceinion i'r de-orllewin, Swydd Gaer i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale i'r gogledd-orllewin, Gorllewin Swydd Efrog i'r gogledd-ddwyrain, a Swydd Derby i'r de-ddwyrain.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn ddau blwyf sifil (Saddleworth a Shaw and Crompton), gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Oldham lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Chadderton, Failsworth, Royton a Shaw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 23 Awst 2020
