Bwrdeistref Fetropolitan Stockport

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bwrdeistref Fetropolitan Stockport
Stockport Town Hall (1).jpg
Math bwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Manceinion Fwyaf
Prifddinas Stockport Edit this on Wikidata
Poblogaeth 291,775 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Manceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 126.0402 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 78 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Disley Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.4°N 2.17°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E08000007 Edit this on Wikidata
GB-SKP Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol gweithrediaeth Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Stockport Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol cyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Stockport Edit this on Wikidata

Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Stockport (Saesneg: Metropolitan Borough of Stockport).

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 126 km², gyda 293,423 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Manceinion i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside i'r gogledd, Swydd Derby i'r dwyrain, a Swydd Gaer i'r de.

Bwrdeistref Fetropolitan Stockport ym Manceinion Fwyaf

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Mae'r fwrdeistref yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Stockport ei hun. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Bramhall, Bredbury a Cheadle.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 22 Awst 2020