Bwrdeistref Fetropolitan Bury
| Math | bwrdeistref fetropolitan, ardal ddi-blwyf |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
| Prifddinas | Bury |
| Poblogaeth | 190,708 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 99.4601 km² |
| Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Fetropolitan Bolton, Dinas Manceinion, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale, Dinas Salford, Bwrdeistref Rossendale, Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen |
| Cyfesurynnau | 53.5928°N 2.2981°W |
| Cod SYG | E08000002, E43000156 |
| GB-BUR | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | executive of Bury Metropolitan Borough Council |
| Corff deddfwriaethol | council of Bury Metropolitan Borough Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Bury Metropolitan Borough Council |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Bury (Saesneg: Metropolitan Borough of Bury).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 99.5 km², gyda 190,990 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale i'r dwyrain, Dinas Manceinion a Dinas Salford i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Bolton i'r gorllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Mae'r fwrdeistref yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Bury ei hun. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Prestwich, Radcliffe, Ramsbottom, Tottington a Whitefield.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 22 Awst 2020
