Dorset

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dorset
Math swyddi seremonïol Lloegr, sir hanesyddol yn Lloegr Edit this on Wikidata
Poblogaeth 744,041, 772,268 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir De-orllewin Lloegr, Lloegr Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 2,813.998 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Gwlad yr Haf, Dyfnaint, Wiltshire, Hampshire Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 50.8333°N 2.3333°W Edit this on Wikidata
GB-DOR Edit this on Wikidata
Lleoliad Dorset yn Lloegr

Swydd seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dorset (Saesneg: Dorset). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan Môr Udd rhwng siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf i'r gorllewin, Wiltshire i'r gogledd a Hampshire i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw Dorchester. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y Dorset Downs yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw Afon Frome ac Afon Stour. Sir amaethyddol yw hi'n draddodiadol ond mae twristiaeth yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel Bournemouth a Weymouth. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer anferth Maiden Castle, ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol Thomas Hardy. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Wessex.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Llywodraeth leol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhennir y swydd yn ddau awdurdod unedol:

Ardaloedd Dorset:
1 Bournemouth, Christchurch a Poole
2 Cyngor Dorset

Daeth y ddau awdurdod i fodolaeth ar 1 Ebrill 2019 pan gyfunwyd wyth awdurdod llai:

  • Crëwyd Bournemouth, Christchurch a Pool trwy cyfuno y ddau awdurdod unedol Bwrdeistref Bournemouth a Bwrdeistref Poole â'r ardal an-fetropolitan Christchurch.
  • Crëwyd Cyngor Dorset trwy gyfuno y pum ardal an-fetropolitan:
    • Dwyrain Dorset
    • Gogledd Dorset
    • Gorllewin Dorset
    • Purbeck
    • Weymouth a Portland


Cynrychiolaeth genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhennir y swydd yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan: