Maiden Castle
| Math | safle archaeolegol, caer lefal |
|---|---|
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Winterborne St Martin, Dorset |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 19 ±1 ha |
| Uwch y môr | 132 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 50.695°N 2.47°W |
| Cod OS | SY66938848 |
| Rheolir gan | English Heritage |
![]() | |
| Perchnogaeth | English Heritage |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
Bryngaer yn Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Maiden Castle. Mae'n safle 44 erw (18 ha)[1] ar gopa Bryn Fordington, ger Dorchester. Credir y gallai'r amddiffynfeydd cyntaf ddyddio o tua 2,000 CC. Cloddiwyd y safle gan yr archaeolegydd enwog Syr Mortimer Wheeler a chafwyd hyd i dystiolaeth fod pentref o gyfnod Oes yr Haearn ar y safle tua 400 CC. Cafodd ei chipio gan y Rhufeiniaid yn OC 43 a'i gadael yn anghyfanedd ar ôl tua 70.

Cymharwyd maint a chryfder y fryngaer gydag un arall: Dinorben ger Abergele. Disgrifiwyd Dinorben (cyn iddi gael ei chwalu gan gloddio chwarelyddol yn yr 20g) gan yr archaeolegydd Gardner fel hyn: "Cododd y clawdd mewnol enfawr, a oedd eisioes wedi'i herydu, 7 metr llawn uwchben wyneb y tir, a bron i 12m uwchben gwaelod y ffos allanol... Mae hyn yn ei osod yn gyfartal â Maiden Castle yn Dorset, gwersyll aruthrol o fawr."[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan British History Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-21. Cyrchwyd 2010-09-10.
- ↑ intarch.ac.uk; adalwyd 13 Tachwedd 2024.
