43
Jump to navigation
Jump to search
1 CC - 1g - 2g
00au CC 00au 10au 20au 30au 40au 50au 60au 70au 80au 90au
Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dechrau concwest Prydain gan y Rhufeiniaid. Mae Aulus Plautius yn glanio gyda pedair lleng a nifer tebyg o filwyr cynorthwyol, ac yn cael ei wrthwynebu gan Caradog a Togodumnus. Wedi i'r Rhufeiniaid ennill brwydrau ger Afon Medway ac Afon Tafwys, mae Aulus Plautius yn aros i ddisgwyl yr ymerawdwr Claudius cyn cipio dinas Camulodunum. Sefydlir dinas Londinium (Llundain). Yn ddiweddarach mae un lleng dan Vespasian yn dechrau ymgyrch yn ne-orllewin Lloegr.
- Y Rhufeiniaid yn cipio Lycia yn Asia Leiaf, ac yn ei chyfuno a Pamphylia i greu talaith.
Genedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Martial, bardd Rhufeinig
Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Togodumnus, brenin y Catuvellauni
- Julia, merch merch Drusus yr Ieuengaf, wyres yr ymerawdwr Tiberius a nith Claudius, dienyddiwyd (neu gorfodwyd i'w ladd ei hun) ar gais Messalina