Afon Medway

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Medway
280px
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Canol Sussex, Tonbridge a Malling, Medway Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.4492°N 0.7383°E, 51.1767°N 0.1475°W, 51.4492°N 0.7383°E Edit this on Wikidata
Tarddiad Turners Hill Edit this on Wikidata
Aber Afon Tafwys Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Eden, East Malling Stream, Loose Stream, Afon Beult, Afon Bourne, Afon Len, Afon Teise, Wateringbury Stream Edit this on Wikidata
Dalgylch 2,409 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd 113 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad 90 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata

Afon yn ne-ddwyrain Lloegr yw Afon Medway. Mae'n codi yn swydd Sussex ac yna'n llifo tua'r gogledd ac wedyn i'r dwyrain trwy Gaint i aberu yn Afon Tafwys. Ar ei ffordd mae'n llifo trwy Tonbridge, Maidstone, Rochester, Chatham a Gillingham. Ei hyd yw 113 km (70 milltir). Ymhlith yr afonydd sy'n ymuno ynddi y mae Afon Eden ac Afon Loose.

Brwydr Afon Medway[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y flwyddyn OC 43 ymladdwyd brwydr fawr rhwng llwyth Celtaidd y Catuvellauni a'r Rhufeiniaid ar lan yr afon, ar safle rhywle yng nghyffiniau Rochester. Caradog a’i frawd Togodumnus a arweiniodd lluoedd y Catuvellauni yn erbyn y fyddin Rufeinig dan Aulus Plautius. Gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid yn y frwydr honno ac mewn brwydr arall ar lan Afon Tafwys wedyn a chymerodd y llengoedd feddiant ar diriogaethau’r llwyth. Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin i deyrnas y Silwriaid.

England-geo-stub.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.