Tiberius

Oddi ar Wicipedia
Tiberius
GanwydTiberius Claudius Nero Edit this on Wikidata
16 Tachwedd 42 CC, 17 Tachwedd 42 CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mawrth 0037 Edit this on Wikidata
Miseno Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, gwleidydd, milwr Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadTiberius Claudius Nero, Marcus Gallius, Augustus Edit this on Wikidata
MamLivia Edit this on Wikidata
PriodVipsania Agrippina, Iulia Maior Edit this on Wikidata
PlantDrusus Julius Caesar, Claudia/Claudius, Tiberillus, Germanicus Edit this on Wikidata
LlinachJulio-Claudian dynasty, Claudii Nerones, Julii Caesares Edit this on Wikidata
Gwobr/auPencampwr Olympaidd, tethrippon (cerbyd 4 ceffyl) Edit this on Wikidata

Tiberius Caesar Augustus neu Tiberius (16 Tachwedd 42 CC16 Mawrth 37 OC) oedd ail Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Tiberius Claudius Nero. Bu'n ymeradwr o 18 Medi 14 OC hyd ei farwolaeth.[1]

Roedd yn fab i Tiberius Claudius Nero a Livia Drusilla, ac yn frawd i Drusus. Ail-briododd ei fam ag Augustus ar ôl cael ysgariad oddi wrth dad Tiberius, a thrwy fod yn fab maeth i Augustus, etifeddodd Tiberius yr ymerodraeth.

Bu blynyddoedd cyntaf teyrnasiad Tiberius yn llwyddiannus; sefydlogwyd y ffîn yn Germania a dangosodd ei hun yn weinyddwr galluog. Fodd bynnag, gwaethygodd y berthynas rhyngddo ef ac aelodau'r Senedd. Yn y flwyddyn 27 OC, aeth yr ymerawdwr i fyw i ynys Capri, ar yr arfordir gerllaw Napoli. Daeth pennaeth Gard y Praetoriwm, Lucius Aelius Seianus, yn ddylanwadol iawn. Ceisiodd Seianus droi Tiberius yn erbyn ei deulu, iddo ef ei hyn gael ei enwi fel ei etifedd, ond dienyddiwyd ef yn 31 OC. Gwnaeth brad ei gyfaill Seianus i'r ymerawdwr, oedd eisoes yn ddrwgdybus o'r Senedd, yn fwy drwgdybus byth, a dienyddiwyd nifer o Seneddwyr a gwŷr amlwg eraill yn ei flynyddoedd olaf.

Bu farw yn Misenum yn 77 oed, a dilynwyd ef gan Caligula.

Rhagflaenydd:
Augustus
Ymerawdwr Rhufain
18 Medi 14 OC16 Mawrth 37 OC
Olynydd:
Caligula

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tiberius | Roman emperor". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mawrth 2018.
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato