Nero Claudius Drusus

Oddi ar Wicipedia
Nero Claudius Drusus
GanwydDecimus Claudius Drusus Edit this on Wikidata
14 Ionawr 38 CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 9 CC Edit this on Wikidata
Germania Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddPraetor, quaestor, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadTiberius Claudius Nero Edit this on Wikidata
MamLivia Edit this on Wikidata
PriodAntonia Minor Edit this on Wikidata
PlantGermanicus, Livilla, Claudius Edit this on Wikidata
LlinachJulio-Claudian dynasty, Claudii Nerones Edit this on Wikidata

Cadfridog Rhufeinig oedd Nero Claudius Drusus Germanicus, ganed Decimus Claudius Drusus ac a elwir fel rheol yn Drusus, neu Drusus yr Hynaf (14 Ionawr 38 CC - 9 CC). Ef oedd mab ieuengaf Livia, yn ddiweddarach yn wraig yr ymerawdwr Augustus, a'i gŵr cyntaf, Tiberius Claudius Nero.

Ganed ef ychydig cyn i Livia ysgaru Tiberius Claudius Nero er mwyn priodi Augustus. Magwyd ef yn nhŷ Claudius Nero gyda'i frawd Tiberius, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach.

Priododd Antonia Minor, merch Marcus Antonius a chwaer Augustus, Octavia Minor. Roedd y briodas yn un nodedig o glos, ac wedi marw Drusus bu Antonia yn weddw am bron hanner canrif hen ail-briodi. Cawsant bump o blant; bu dau farw yn ieuanc. Y tri arall oedd Germanicus, Livilla a Claudius, a ddaeth yn ymerawdwr.

Bu'n ymladd yn yr Alpau, cyn cael ei benodi'n llywodraethwr Gâl yn 13 CC. Pan ymosododd llwyth Almaenig ar ei dalaith, gwrth-ymosododd Drusus tu hwnt i Afon Rhein, gan orfodi'r Ffrisiaid i dalu teyrnged flynyddol. Parhaodd i ymgyrchu yn yr Almaen dros y blynyddoedd nesaf, gan ennill buddugoliaethau dros y Chatti a'r Sicambri.

Bu farw yn 9 CC o ganlyniad i ddisgyn oddi ar ei geffyl, er iddo fyw am fis ar ôl y ddamwain. Ysgrifennodd yr ymerawdwr Augustus fywgraffiad iddo, ond nid yw wedi goroesi.