Neidio i'r cynnwys

Germanicus

Oddi ar Wicipedia
Germanicus
GanwydNero Claudius Drusus Edit this on Wikidata
24 Mai 15 CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw10 Hydref 0019 Edit this on Wikidata
Antiochia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, quaestor, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAratea Edit this on Wikidata
TadNero Claudius Drusus, Tiberius Edit this on Wikidata
MamAntonia Minor Edit this on Wikidata
PriodAgrippina yr hynaf Edit this on Wikidata
PlantCaligula, Nero Caesar, Julia Drusilla, Julia Livilla, Drusus Caesar, Agrippina Yr Ieuengaf, Gaius Julius Caesar Germanicus Major, Tiberius Julius Caesar Germanicus, Ignotus Julius Caesar Germanicus Edit this on Wikidata
LlinachJulio-Claudian dynasty, Claudii Nerones, Julii Caesares Edit this on Wikidata
Gwobr/auPencampwr Olympaidd, tethrippon (cerbyd 4 ceffyl), Roman triumph Edit this on Wikidata

Cadfridog Rhufeinig oedd Germanicus Julius Caesar Claudianus (24 Mai 15 CC10 Hydref 19 OC). Ei enw gwreiddiol oedd Nero Claudius Drusus neu Tiberius Claudius Nero; cymerodd yr enw "Germanicus" yn 9 CC, pan gafodd ei dad yr enw i gydnabod ei fuddugoliaethau yn Germania.

Tad Germanicus oedd y cadfridog Nero Claudius Drusus, mab yr ymerodres Livia Drusilla, trydydd gwraig yr ymerawdwr Augustus. Ei fam oedd Antonia Minor, merch Marcus Antonius ac Octavia Minor, chwaer Augustus. Roedd ganddo un chwaer, Livilla, ac un brawd, Claudius, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach.

Priododd Germanicus ag Agrippina yr Hynaf, a chawsant naw o blant. Bu farw tri yn ieuanc; y chwech arall oedd:

Roedd Germanicus yn ffefryn gan yr ymerawdwr Augustus, a phan enwodd Tiberius fel ei etifedd, mynnodd ei fod yn mabwysiadu Germanicus fel mab ac etifedd iddo ef. Bu'n ymladd yn Pannonia a Dalmatia, a daeth i gael ei gydnabod fel cadfridog galluog. Wedi marwolaeth Augustus yn 14, enwodd Senedd Rhufain ef yn bennaeth y milwyr yn Germania. Arweiniodd nifer o ymgyrchoedd yn erbyn y cynghrair o lwythau Almaenig dan arweiniad Arminius, oedd wedi dinistrio tair lleng Rufeinig ym Mrwydr Fforest Teutoburg yn 9 OC. Enillodd Germanicus nifer o fuddugoliaethau dros Arminius, yn enwedig ger Idistoviso ar Afon Weser yn 16. Gallodd adennill eryr pob un o'r tair lleng a gollwyd ym Mrwydr Fforest Teutobug.

Galwyd Germanicus yn ôl i Rufain gan Tiberius, ac yna gyrrwyd ef i Asia, lle gorchgyfodd deyrnasoedd Cappadocia a Commagene yn 18, a'i troi yn daleithiau Rhufeinig. Bu cweryl rhyngddo ef a llywodraethwr Syria, Gnaeus Calpurnius Piso, a phan fu farw Germanicus yn sydyn yn Antioch, cyhuddwyd Piso o'i wenwyno. Lladdodd Piso ei hun tra'n disgwyl ei brawf yn Rhufain. Awgrymodd Suetonius fod Tiberius yn eiddigeddus o boblogrwydd Germanicus, a'i fod a rhan yn y llofruddiaeth. Taflwyd amheuaeth ar brif gynghorydd Tiberius, Sejanus, hefyd.