Sgwrs:Dyfnaint

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Fe glywais i "county" Saesneg yw "swydd" a "county" Cymreig yw "sir". Dydy hyn ddim yn gywir, ydy e? Marnanel 20:12, 10 Mai 2004 (UTC)[ateb]

Nac ydyw, 'dydi hi ddim. Mae 'sir' yn cael ei defnyddio am rai siroedd yn Lloegr hefyd, yn enwedig y rhai ag enwau Cymraeg (yn Gymraeg) fel Sir Gaer a Sir Gaerloyw, ond Swydd Nottingham. Weithiau mae dewis - Sir Efrog neu Swydd Efrog. Fflwffan 22:20, 9 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Rwyf yn cael y cysylltiad hwn : "An Ger Dewnansek (yn Saesneg y Dyfnainteg)" yn amheus iawn o ran ffeithioldeb, a heb fod yn deilwng o'i gymryd o ddifrif. Gwell ei ddileu ddywedwn i. Fflwffan 22:24, 9 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Mae "Dyfnainteg" yn beth cwbl ddiarth i mi hefyd. Newydd siecio be sy gan Henry Lewis i'w ddweud yn ei gyfrol "Llawlyfr Llydaweg Canol". Fel roeddwn yn meddwl, y farn gyffredin yw i'r dafodiaith Frythoneg y mae Cernyweg yn tarddu ohoni ddiflannu o Wlad yr Haf a Dyfnaint erbyn tua'r 9fed ganrif a chael ei chyfyngu i'r gorllewin o Afon Tanat (Cernyw heddiw) a graddol droi'n Gernyweg. Efallai fod rywfaint o Gernyweg gyda geirfa arbennig wedi goroesi mewn rhannau gorllewinol o Ddyfnaint tan y cyfnod modern (h.y. rhai canrifoedd yn ôl, dwn i ddim..). Ond yn ogystal mae'r seit ei hun, fel eraill ar y server yna, yn llawn o bethau masnachol a.y.b. Mae'n swnio'n rhy debyg i un o'r seits 'na sy'n credu popeth ddywedodd Sieffre o Fynwy! Dim llawer o golled i'w dileu, felly... Anatiomaros 22:54, 9 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]