John Prescott
| John Prescott | |
|---|---|
| Llais | Lord Prescott BBC Radio4 Desert Island Discs 19 Feb 2012 b01c6trm.flac |
| Ganwyd | 31 Mai 1938 Prestatyn |
| Bu farw | 20 Tachwedd 2024 o clefyd Alzheimer |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur |
| Swydd | Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Ysgrifenyddion Gwladol, Aelod Senedd Ewrop, Secretary of State for the Environment, Transport and the Regions, Dirprwy Arweinydd Plaid Lafur Lloegr, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Waith a Phensiynau, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Drafnidiaeth, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Drafnidiaeth, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gyflogaeth, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gyflogaeth |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Chwaraeon | |
Gwleidydd o Gymru ac aelod o'r Blaid Lafur oedd John Leslie Prescott (31 Mai 1938 – 20 Tachwedd 2024)[1]. Bu'n Aelod Seneddol ar gyfer Hull East ac yn gyn Ddirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a Phrif Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig. Etholwyd ef yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur ar ôl dod yn ail yn etholiad arweinydd y blaid ym 1994, a chafodd swydd fel Dirprwy Brif Weinidog ar ôl buddugoliaeth Llafur yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni ym Mhrestatyn ac er symudodd ei deulu i ffwrdd pan oedd yn 4 mlwydd oed, roedd yn ystyried ei hun yn Gymro.[2] Yn ei amser bu'n gyn-stiward ar long ac yn actifydd undeb llafur. Yn 1962, mynychodd Coleg Ruskin, Rhydychen, lle cafodd ddiploma mewn economeg a gwleidyddiaeth, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Hull i astudio am radd mewn economeg.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyflwynwyd ef gan "Lafur Newydd" fel dolen rhwng y dosbarth gweithiol a gwleidyddiaeth, mewn plaid a oedd yn cael ei redeg gan bobl broffesiynol, dosbarth canol. Fe fethodd basio'i arholiad eleven plus er mwyn mynd i ysgol ramadeg, ond fe aeth ymlaen i raddio yng Ngholeg Ruskin yn Rhydychen. Cafodd Prescott enw da fel cymodwr allweddol yn y berthynas rhwng y ddau brif gymeriad yn y llywodraeth ar y pryd, sef y canghellor Gordon Brown a'r Prif Weinidog Tony Blair.
Ar 27 Mehefin 2007, ymddeolodd o'i swydd fel Dirprwy Brif Weinidog, gan gyd-daro gydag ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Tony Blair. Yn dilyn ethoiad o fewn y blaid Lafur, fe gymerodd Harriet Harman ei swydd fel y Prif Ysgrifennydd Gwladol, ond ni apwyntwyd Dirprwy Brif Weinidog yn ei le. Ar 27 Awst 2007, datganodd na fyddai'n sefyll i gael ei ail-ethol fel AS yn yr etholiad nesaf.[3]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Pauline Tilston yn 1961 a ganwyd dau fab iddynt.
Bu farw yn 86 mlwydd oed. Roedd wedi dioddef strôc yn 2019 ac fwy diweddar roedd yn byw mewn cartref gofal ar ôl byw gydag Alzheimer's.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y cyn-ddirprwy Brif Weinidog John Prescott wedi marw yn 86 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-11-21. Cyrchwyd 2024-11-21.
- 1 2 "John Prescott obituary: Politician who played role in Labour comeback". BBC News (yn Saesneg). 2024-11-21. Cyrchwyd 2024-11-21.
- ↑ John Prescott to stand down as MP. BBC (2007-08-27).
- ↑ Stephen Bates (21 Tachwedd 2024). "Lord Prescott obituary" (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Mai 2026.
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Harry Pursey |
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Kingston upon Hull 1970 – 2010 |
Olynydd: Karl Turner |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Michael Heseltine |
Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig 2 Mai 1997 – 27 Mehefin 2007 |
Olynydd: Gwag / Nick Clegg (o 2010) |
| Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
| Rhagflaenydd: Margaret Beckett |
Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur 21 Gorffennaf 1994 – 24 Mehefin 2007 |
Olynydd: Harriet Harman |