Aelod Senedd Ewrop

Oddi ar Wicipedia
Mae AS(E) yn cyfeirio yma. Am ystyron eraill, gweler AS (gwahaniaethu)

Cynrhychiolydd sydd wedi'i ethol i Senedd Ewrop yn Strasbourg, yw Aelod Senedd Ewrop neu ASE (weithiau: Aelod Seneddol Ewropeaidd.[1] Roedd 736 o ASEau yn etholiadau Ewropeaidd 2009 a 375 miliwn o etholwyr.

Pan ffurfiwyd Senedd Ewrop ar 10 Medi 1952, roedd ei strwythur yn bur wahanol ac etholwyd ASEau'n uniongyrchol gan lywodraethau unigol y gwledydd (neu'r 'Aelod-Wladwriaethau'), o blith Aeldoau Seneddol a oedd eisoes wedi'u hethol yn lleol. Ers 1979, fodd bynnag, caed etholiadau yn yr Aelod-wladwriaethau'n un pwrpas i'w hethol i Senedd Ewrop. Mae'r dull yn amrywio o Aelod-wladwriaeth i Aelod-wladwriaeth, gan newid dros amser, er bod un rheol euraid: fod yn rhaid cynnwys elfen o gynrychiolaeth gyfrannol. Mewn rhai Aelod-wladwriaethau mae'r ASEau'n cael eu hethol i gynrychioli un etholaeth 'genedlaethol' (h.y. y genedl / Aelod-wladwriaeth) ond mewn Aelod-wladwriaeth eraill cynrychiolant ran (neu Ranbarth) o'r wlad honno.

Caiff etholiadau eu cynnal bob 5 mlynedd.

Aelodau'r 7fed Llywodraeth Ewropeaidd:
     Plaid Pobl Ewrop (221)
     Sosialwyr (191)
     Rhyddfrydwyr (85)
     Plaid Werdd Ewrop a Chynghrair Rhydd Ewrop (68)
     Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (70)
     Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig (52)
     Rhyddid Ewrop a Democratiaeth Uniongyrchol (48)
     Arall (52)

Clystyrir pob ASE (ar wahân i 27 ohonynt) mewn grwpiau, yn ôl eu daliadau gwleidyddol. Er enghraifft, daw Plaid Lafur Iwerddon a Phlaid Sosialaidd yr Eidal at ei gilydd fel aelodau o'r grŵp 'Clymblaid y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid dros Ewrop'.

Swyddogaeth[golygu | golygu cod]

Ar wahân i Awst, mae Llywodraeth Ewrop yn cyfarfod yn fisol am bedwar diwrnod y tro yn Strasbourg a chwe gwaith y flwyddyn maent yn cyfarfod ym Mrwsel,[2] ble mae'r pwyllgorau, is-bwyllgorau a grwpiau gwleidyddol hefyd yn cyfarfod.[3] Yn Uwchgynhadledd Caeredin yn 1992 gwnaed hi'n hanfodol i'r ASEau i dreulio wythnos y mis yn Strasbourg.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rule 1 in Rules of Procedure of the European Parliament". Europarl.europa.eu. 20 September 1976. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-03. Cyrchwyd 2011-11-28.
  2. European Parliament – Work in Session Archifwyd 2011-09-21 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 20 Mai 2010
  3. Brwsel yw safle'r llywodraeth de facto, yn ogystal â Chomisiwn a Chyngor Ewrop.European Parliament in brief. Archifwyd 2011-11-25 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 20 Mai 2010.