Undeb llafur

Oddi ar Wicipedia
Gwrthdystwyr wedi'u hamgylchynu gan filwyr yn ystod Streic tecstil Lawrence ym 1912.

Mudiad o weithwyr sydd wedi dod ynghyd er mwyn gwireddu amcanion cyffredin megis gwell amodau gwaith yw undeb llafur. Trwy'r arweinyddiaeth, bydd undeb llafur yn bargeinio gyda chyflogwyr ar ran aelodau'r undeb ac yn negydu cytundebau llafur (cydfargeinio) gyda chyflogwyr. Gall hyn gynnwys negydu am gyflogau, rheolau gwaith, dull gweithredu cwynion, rheolau'n ymwneud â chyflogi, diswyddo a dyrchafu gweithwyr, budd-daliadau, diogelwch yn y gweithle a pholisïau. Mae'r cytundebau a negydir gan arweinwyr yr undebau yn rhwym i'r aelodau a'r cyflogwr ac mewn rhai achosion i weithwyr eraill nad ydynt yn aelodau.

Dechreuodd yr undebau yn Ewrop, a daethant yn boblogaidd mewn nifer o wledydd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, pan nad oedd angen sgiliau penodol i wneud nifer o swyddi. O ganlyniad roedd y pŵer bargeinio ar ochr y cyflogwyr bron yn gyfan gwbl ac arweiniodd hyn at nifer o weithwyr yn cael eu camdrin a'u talu'n wael. Gall undebau llafur gynnwys gweithwyr unigol, pobl broffesiynol, cyn-weithwyr neu bobl diwaith. Prif bwrpas y mudiadau hyn yw "cynnal neu wella amodau eu cyflogaeth"[1] er eu bod yn gwneud llawer mwy yn ogystal â hyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (1920) History of Trade Unionism. Longmans and Co. London ch. I