Humberside

Oddi ar Wicipedia
Humberside
Mathsir an-fetropolitan, siroedd seremonïol Lloegr, cyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.8°N 0.5°W Edit this on Wikidata
Map

Sir yn rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Humberside. Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o rannau o'r hen Riding Dwyreiniol Swydd Efrog, Riding Gorllewinol Swydd Efrog a Swydd Lincoln ar bob ochr Afon Humber, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996.

Lleoliad Humberside yn Lloegr

Roedd gan y sir arwynebedd o 3,512 km² gyda poblogaeth o 845,280 yng nghyfrifiad 1981. Roedd yn ffinio Gogledd Swydd Efrog i'r gogledd ac i'r gorllewin, De Swydd Efrog a Swydd Nottingham i'r de-orllewin, Swydd Lincoln i'r de, a Môr y Gogledd i'r dwyrain. Dinas Kingston upon Hull oedd ei haneddiad mwyaf, ac roedd ei phencadlys yn nhref Beverley.

Rhennid y sir yn naw ardal an-fetropolitan:

Nid oedd y sir newydd erioed yn boblogaidd, fel y dangosir gan y paent a daflwyd dros yr arwydd hwn tua 1992.

Nid oedd y sir newydd erioed yn boblogaidd, yn enwedig yn y rhan a fu gynt yn rhan o Swydd Efrog, a oedd yn cynnal ymdeimlad cryf o hunaniaeth. Hyd yn oed ar ôl agor Pont Humber ym 1981 roedd yn anodd cyfathrebu rhwng gogledd a de'r sir.

Diddymwyd y sir ym 1996. Fe'i disodlwyd gan bedwar awdurdod unedol: