Scafell Pike

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Scafell Pike
Scafell Pike.JPG
Math Mynydd, Furth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynol Southern Fells Edit this on Wikidata
Sir Cumbria Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Uwch y môr 978 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 54.45417°N 3.21153°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd 912 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegol Ordofigaidd Edit this on Wikidata
Rhiant gopa Yr Wyddfa Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Ardal y Llynnoedd Edit this on Wikidata
Deunydd Craig igneaidd Edit this on Wikidata

Mynydd uchaf Lloegr yw Scafell Pike, ac mae'n cyrraedd 978m. Fe'i lleolir yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n un o gadwyn hir o fynyddoedd yng nghanol Ardal y Llynnoedd, wedi'i amgylchynu gyda mynyddoedd fel Great Gable, Kirk Fell, Sca Fell a Broad Crag.

Twristiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llawer iawn o dwristiaid yn ogystal â cherddwyr a dringwyr lleol yn cerdded Scafell Pike bob blwyddyn. Yn wir, mae'r mynydd yn cael ei adnabod fel un o ddringfeydd gorau Ardal y Llynnoedd yn un faint ag yw yn daith gerdded. Er ei safle weddol unig, mae pentref cyfagos o'r enw Nether Wasdale ac mae pentrefi eraill yn bellach. Yn Nether Wasdale mae yna hostel ieuenctid, ac mae safleoedd gwersylla yn frith o gwmpas y lle.

Cerdded[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae modd cyrraedd y mynydd o nifer o ddyffrynnoedd gwahanol -

  • Eskdale
  • Borrowdale
  • Great Langdale
  • Wasdale Head

Mae ffyrdd Borrowdale ac Eskdale yn hir iawn, ac nid oes golwg o'r mynydd am yn hir. Mae Wasdale Head yn ffordd haws a chyflymach o gyrraedd y mynydd.

Disgrifiodd A. Wainwright Scafell Pike fel mynydd, bob modfedd ohono.

Rhinweddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Scafell Pike cyfan a'i gadwyn yn ardal greigiog iawn ac mae copa Scafell Pike yn wyneb o gerrig sydd yn rhaid dringo drostynt i gyrraedd y gorlan ar y brig.

England-geo-stub.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.