Ardal y Llynnoedd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ardal y Llynnoedd
Keswick Panorama - Oct 2009.jpg
Math cadwyn o fynyddoedd, Rhanbarth Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 Awst 1951 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd Edit this on Wikidata
Sir Gogledd-orllewin Lloegr Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 2,362 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 978 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 54.5°N 3.1667°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E26000011 Edit this on Wikidata
Hyd 55 cilometr Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata

Ardal wledig yng Ngogledd-orllewin Lloegr sy'n enwog am ei llynnoedd a mynyddoedd ydy Ardal y Llynnoedd.

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd, sy'n cwmpasu ardal o 2,362 km², ym 1951. Mae'r parc yn cynnwys yr ardal ganolog, sef yr ardal fwyaf ymweledig, sy'n gorwedd yn gyfangwbl yn Cumbria, ac sy'n cynnwys pob mynydd uwch na 3,000 troedfedd (914 m) yn Lloegr, gan gynnwys Scafell Pike, mynydd uchaf y wlad honno. Mae hefyd yn cynnwys y llyn mwyaf Lloegr, sef Windermere, a'r llyn dyfnaf Lloegr, sef Wast Water. Er ei fod yn ardal mor wledig, mae'n cynnwys un o dinasoedd mwyaf yr ardal, sef dinas Caerliwelydd.

Mae Ardal y Llynnoedd ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1988.[1] Mae UNESCO o'r farn bod yr Ardal yn dangos datblygiad y syniad o werth cyffredinol tirwedd olygfaol, ynddo'i hun ac yn ei allu i feithrin a gwella dychymyg, creadigrwydd ac ysbryd; arweiniodd yn uniongyrchol at ddatblygiad sefydliad cadwraethol Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – syniad a ledaenodd i lawer o wledydd, a chyfrannodd at y cysyniad modern o dirweddau a warchodir yn gyfreithiol.

Mae'r ardal yn gyrchfan wyliau boblogaidd, mae'n enwog am ei llynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd, a'i chysylltiadau â William Wordsworth a Beirdd y Llynnoedd eraill, a hefyd gyda Beatrix Potter a John Ruskin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

County Flag of Cumbria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
England-geo-stub.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.