Beirdd y Llynnoedd
Gwedd
| Beirdd y Llynnoedd | |
|---|---|
| Galwedigaeth | ysgrifennwr |
| Llenyddiaeth Lloegr yn y 18fed ganrif |
|---|
|
Rhyddieithwyr yr oes Awgwstaidd |
|
Beirdd a dramodwyr yr oes Awgwstaidd |
|
Beirdd natur a beirdd y fynwent |
|
Oes Johnson |
|
Athroniaeth a'r gwyddorau |
Grŵp o feirdd Saesneg a oedd yn weithgar yn hanner cyntaf y 19g oedd Beirdd y Llynnoedd (Saesneg: Lake Poets). Roeddent yn aelodau pwysig o'r Mudiad Rhamantaidd mewn llenyddiaeth Saesneg. Rhoddwyd yr enw i'r grŵp gan y cylchgrawn The Edinburgh Review yn 1817 oherwydd ei gysylltiad ag Ardal y Llynnoedd, yng ngogledd Lloegr, lle'r oedd nifer ohonynt yn byw.
Y tri aelod mwyaf nodedig o'r grŵp oedd William Wordsworth, Samuel Taylor Coleridge, a Robert Southey. Roeddent yn gysylltiedig â nifer o feirdd ac awduron eraill, gan gynnwys Dorothy Wordsworth, Charles Lamb, Mary Lamb, Charles Lloyd, Hartley Coleridge, John Wilson, a Thomas De Quincey.
