Barddoniaeth Hen Saesneg

Oddi ar Wicipedia
Barddoniaeth Hen Saesneg

Barddoniaeth a ysgrifennir yn Hen Saesneg, neu Eingl-Sacsoneg, y ffurf ar yr iaith Saesneg a fodolai yn y cyfnod o ganol y 7g i ddiwedd y 12g, yw barddoniaeth Hen Saesneg. Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr Eingl-Sacsoniaid, o oresgyniadau'r 5g hyd at eu cristioneiddio yn y 7g, yn goroesi. Gellir olrhain barddoniaeth Saesneg Lloegr yn ôl i "Emyn Cædmon", yr enw a roddir ar gerdd grefyddol fer a briodolir i'r mynach Cædmon (blodeuai 658–680) o Northymbria yn ôl yr Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum, hanes yn Lladin o'r 8g gan yr Hybarch Beda. Dyma'r enghraifft hynaf o lenyddiaeth yn yr iaith Saesneg, a'r esiampl gyntaf o farddoniaeth dduwiolfrydig Gristnogol yn llenyddiaeth y Saeson. O ail hanner y 7g hefyd, mae'n bosib, dyddia'r fawlgan Widsith, gan awdur anhysbys. Llyfr Caerwysg, o ddiwedd y 10g, yw unig ffynhonnell Widsith, ac er i ambell hanesydd dybio iddi gael ei chyfansoddi tua'r cyfnod hwnnw, mae'n cynnwys nodweddion a chyfeiriadau unigryw sydd yn debycach o lawer i draddodiad Germanaidd y Cyfandir, gan awgrymu ei bod yn seiliedig ar farddoniaeth gynharaf yr Eingl-Sacsoniaid os nad yn esiampl wirioneddol ohoni. Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn barddoniaeth arwrol yr Eingl-Sacsoniaid. Yr arwrgerdd hiraf ac enwocaf o'r cyfnod yw Beowulf, sy'n traddodi campau'r prif gymeriad a'i frwydr yn erbyn yr anghenfil Grendel. Cyfuniad o straeon paganaidd Gogledd Ewrop a themâu Cristnogol yw Beowulf, sy'n dyddio o'r 8g.

Tudalen flaen Beowulf, arwrgerdd genedlaethol y Saeson.

Rhennir barddoniaeth Hen Saesneg gan rai ysgolheigion yn ddau draddodiad: y farddoniaeth frodorol neu gyntefig, a'r farddoniaeth Gristnogol neu lenyddol. Mae'r traddodiad brodorol yn amlygu gwreiddiau Cyfandirol yr Eingl-Sacsoniaid, gan dynnu ar fytholeg baganaidd, llên gwerin Germanaidd, ac hanes traddodiadol yr amryw lwythau a oresgynnai Prydain yn y 5g. Mewn llawysgrifau diweddarach y ceir olion y farddoniaeth hon, ond mae'n sicr yr oeddynt yn tarddu o gorff llenyddol hanesyddol, o bosib traddodiad llafar, a oedd yn dyddio'n ôl i ddyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid. Er iddynt yn eu hanfod ragflaenu cristioneiddio'r Eingl-Sacsoniaid, a chael eu hystyried yn draddodiad ar wahân i lên Gristnogol, byddai cyfeiriadau a themâu Cristnogol yn lliwio'r adysgrifiadau a rhyngysgrifeniadau a gyflawnwyd gan sgrifellwyr diweddarach. Beowulf, wrth gwrs, yw'r gerdd fwyaf yn y traddodiad brodorol, ac ymhlith yr esiamplau eraill o farddoniaeth gyntefig Eingl-Sacsonaidd mae Widsith, yr alargan arwrol Deor, a phytiau poblogaidd ar fydr megis swynion a dychmygion.

Mae barddoniaeth y traddodiad Cristnogol yn cynnwys cerddi a briodolir, boed yn gywir neu ar gam, i ddau fardd yn bennaf, sef Cædmon a Cynewulf. Mae'r rhain yn debyg i'r traddodiad brodorol o ran arddull a thechneg, ond yn ymdrin â phynciau cwbl Gristnogol. Mae'n debyg taw "Emyn Cædmon" yw'r unig waith sydd yn goroesi gan y bardd hwnnw, ond yn hanesyddol priodolid iddo hefyd drosiadau o straeon y Beibl—o lyfrau Genesis, Exodus, Daniel, a Jwdith. Priodolir i Cynewulf, a flodeuai yn y 9g mae'n debyg, bedair cerdd a gofnodwyd mewn llawysgrifau yn niwedd y 10g: Elene a The Fates of the Apostles yn Llyfr Vercelli, a Christ II a Juliana yn Llyfr Caerwysg. Mae'n debyg taw The Dream of the Rood yw'r gerdd ddefosiynol wychaf yn nhraddodiad yr Eingl-Sacsoniaid. Yn hanesyddol cafodd yr honno ei phriodoli i Cynewulf hefyd, ond bellach ni chydnabyddir unrhyw dystiolaeth dros hynny.

Barddoniaeth Gristnogol[golygu | golygu cod]

Cerddi crefyddol a didactig sydd yn cyfri am y rhan fwyaf o farddoniaeth Hen Saesneg, ac o dair ffynhonnell yn bennaf: Llyfr Vercelli, Llyfr Caerwysg, a llawysgrif Junius XI. Rhennir y farddoniaeth Gristnogol hon—a elwir weithiau yn "farddoniaeth lenyddol", mewn cyferbyniad â "barddoniaeth gyntefig" yr Eingl-Sacsoniaid—yn aml yn bum categori: barddoniaeth ysgrythurol (aralleiriadau Beiblaidd), barddoniaeth hagiograffaidd (bucheddau'r saint), barddoniaeth ddefosiynol, barddoniaeth bregethol (cerddi homiletig), a barddoniaeth fyfyriol (galargerddi). Yn Llyfr Caerwysg hefyd ceir barddoniaeth wirebol, dychmygion, a rhannau o fwystori a gydnabyddir o'r un traddodiad mynachaidd â'r cerddi hirach.[1]

Bucheddau'r saint[golygu | golygu cod]

Ceir pedair neu bump esiampl o fucheddau'r saint ym marddoniaeth Hen Saesneg: Andreas ac Elene (Cynewulf) yn Llyfr Vercelli, a Guthlac a Juliana (Cynewulf) yn Llyfr Caerwysg. Yn y gerdd Andreas, sy'n seiliedig ar un o'r Actau Apocryffaidd Lladin Acta Andreae et Matthiae apud Anthropophagos, traethir mordaith Sant Andreas i achub ei gyd-apostol Mathew o ganibaliaid yng ngwlad Mermedonia. Dilynir Andreas yn Llyfr Vercelli gan The Fates of the Apostles, merthyroleg fer ar fydr a briodolir i Cynewulf, a ystyrir weithiau yn ddiweddglo i Andreas. Er gwaethaf y themâu tebyg, mae strwythur ac arddull The Fates of the Apostles yn dangos ei bod yn gerdd ar wahân, a ni ellir priodoli Andreas i law Cynewulf.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Derek Pearsall, Old English and Middle English Poetry (Llundain: Routledge & Kegan Paul, 1977), t. 25.
  2. Pearsall, Old English and Middle English Poetry (1977), t. 42.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Lewis E. Nicholson a Dolores Warwick Frese (goln), Anglo-Saxon Poetry: Essays in Appreciation for John C. McGalliard (Notre Dame, Indiana: University of Notre Dame Press, 1975).
  • Barbara C. Raw, The Art and Background of Old English Poetry (Llundain: Edward Arnold, 1978).