Neidio i'r cynnwys

Theatr y Dadeni yn Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Theatr y Dadeni yn Lloegr
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o theatr Edit this on Wikidata
Mathdramatic theatre Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1561 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1642 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Oes Elisabeth (1558–1603) oedd dechrau cyfnod y theatr wychaf yn hanes Lloegr, traddodiad sy'n cael ei gyfri ymhlith ceinion llên yr holl fyd. Dyma oedd oes y Dadeni Seisnig, a oedd yn hwyr i gyrraedd Lloegr o gymharu â'r Dadeni ar y cyfandir, a pharhaodd hyn trwy gydol Oes Iago yn nechrau'r 17g. Heb os nac oni bai, dramodydd pwysicaf yr 16g, a gaiff ei alw'n aml yn llenor goreuaf yr iaith Saesneg, oedd William Shakespeare (1564–1616). Ysgrifennodd Shakespeare tua hanner o'i holl ddramâu yn ystod degawd olaf yr 16g, gan gynnwys Romeo and Juliet (1595), A Midsummer Night's Dream (1595), The Merchant of Venice (1596–97), Henry V (1599), a Julius Caesar (1599). Dramodydd enwog arall oedd Christopher Marlowe (1564–93), sy'n nodedig am Doctor Faustus (1589–92) a The Jew of Malta (tua 1589).

Shakespeare a Ben Jonson (1572–1637) oedd prif ddramodwyr y theatr Saesneg yn nechrau'r 17g. Ysgrifennodd Shakespeare comedïau arloesol yn ogystal â'i drasiedïau clasurol ac hanesion canoloesol, ac yn ôl nifer Shakespeare ydy'r llenor goreuaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg, un o'r ffigurau diwylliannol rhagoraf yn hanes diwylliannol Lloegr, ac un o'r ddramodwyr pwysicaf o unrhyw wlad. Ymhlith enwau eraill Oes Iago mae Francis Beaumont (1584–1616) a John Fletcher (1579–1625). Roedd nifer o'r rhain yn feirdd yn ogystal â dramodwyr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]