Neidio i'r cynnwys

Llên Lloegr yn y 18fed ganrif

Oddi ar Wicipedia

Yn gyffredinol, rhennir llên Lloegr yn y 18g yn ddau brif gyfnod—yr Oes Awgwstaidd ac Oes Johnson—sydd yn barhad o'r newydd-glasuriaeth a gychwynnwyd gan lenorion yr Adferiad yn ail hanner y ganrif gynt. Sonir yn aml hefyd am Oes Teimladrwydd, sydd yn gyffredinol yn cyd-daro ag Oes Johnson yn ail hanner y ganrif. Ar ddiwedd y 18g dygwyd Rhamantiaeth i lên Lloegr, mudiad a adeiladodd ar draddodiadau'r beirdd natur a beirdd y fynwent a flodeuasant yng nghanol y ganrif. Mae rhan fwyaf y 18g yn cyd-daro â'r oes Sioraidd, sef teyrnasiadau'r brenhinoedd Hanoferaidd Siôr I (1714–27), Siôr II, (1727–60), a Siôr III. Er defnyddir yr ansoddair "Sioraidd" i gyfeirio at bensaernïaeth a dodrefn, hanes cymdeithasol, a gwleidyddiaeth y cyfnod hwn, yn anaml fe'i defnyddir i ddisgrifio llenyddiaeth, o bosib er mwyn osgoi cymysgu â'r beirdd Sioraidd, criw o feirdd a flodeuai yn Lloegr yn y 1910au.[1] Defnyddir yr enw "y 18g hir" gan nifer o hanesyddion Seisnig i gyfeirio at y cyfnod o'r Adferiad (1660), neu'r Chwyldro Gogoneddus (1688), hyd at ddiwedd Rhyfeloedd Napoleon ym 1815. Yn nhermau hanes llenyddol Lloegr, mae'r 18g hir yn cyfateb i holl gyfnod newydd-glasuriaeth (yr Adferiad, Awgwstaidd, a Johnson) a thrwch y cyfnod Rhamantaidd.

Pasiwyd Statud Ann, neu'r Ddeddf Hawlfraint, gan Senedd Prydain Fawr yn 1710 i ddarparu hawlfraint i'r awdur dros ei waith. Pasiwyd y Ddeddf Drwyddedu yn 1737 gan roddi i'r Arglwydd Siambrlen yr hawl i sensro pob drama a berfformiwyd yn y wlad.

Yr oes Awgwstaidd (1700au–50au)

[golygu | golygu cod]

Rhoddir yr enw "Awgwstaidd" ar lên Lloegr yn hanner cyntaf a chanol y 18g, sydd yn barhad o'r newydd-glasuriaeth a oedd yn boblogaidd yn ail hanner y ganrif gynt. Weithiau ymestynnir y cyfnod i gynnwys diwedd yr 17g, mor gynnar â'r Adferiad ym 1660. Mae'r enw yn cyfeirio at oes Awgwstaidd llên Rhufain hynafol, dan yr Ymerawdwr Augustus (t. 27 CC–14 OC), pryd blodeuodd y beirdd Lladin Fyrsil, Horas, ac Ofydd. Dyma enw cyfoes a ddefnyddiwyd gan lenorion Seisnig eu hunain yn y 18g, a fuont yn aml yn cymharu'r ddwy oes. Edmygodd llenorion megis Pope, Addison, Swift, a Steele y beirdd Lladin hynafol a dynwaredasant eu gwaith.[2] Yn ôl Oliver Goldsmith (1728–74), yn ei erthygl "Account of the Augustan Age in England" (1759) yn y cylchgrawn The Bee, roedd yr oes yn cyfateb i deyrnasiad y Frenhines Ann o 1702 i 1714.

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â'i ryddiaith enwog, ysgrifennodd yr Eingl-Wyddel Jonathan Swift nifer o ogangerddi. Ystyrir un o gyfeillion Swift, Alexander Pope, yn fardd dychanol goreuaf y cyfnod newydd-glasurol, os nad yn holl hanes barddoniaeth Saesneg Lloegr. Fe efelychai cwpledi arwrol Dryden yn ogystal â ffurfiau dychanol a didactig y bardd Rhufeinig Horas. Y dosbarth uchaf oedd yn gyff gwawd ei ffugarwrgerdd "The Rape of the Lock" (1712–14), a fe wnaeth hwyl ar ben ei gyd-feirdd yn "The Dunciad" (1728).

Y ddrama

[golygu | golygu cod]

Rhyddiaith

[golygu | golygu cod]

Beirdd natur a beirdd y fynwent

[golygu | golygu cod]

Yn ail hanner yr 18g, trodd nifer o lenorion at themâu gwledig ac eidylaidd, mewn adwaith yn erbyn Deddfau Cau'r Tiroedd Comin a'r Chwyldro Diwydiannol, gan greu'r hyn a elwir yn farddoniaeth natur. Ymhlith yr enwocaf o'r traddodiad hwn mae "Ode to an Evening" (1746) gan William Collins, "Elegy Written in a Country Churchyard" (1751) gan Thomas Gray, "The Village" (1783) gan George Crabbe, a "The Task" (1785) gan William Cowper. Y beirdd natur oedd y rhai i hebrwng cyfnod cynharaf Rhamantiaeth i lên Lloegr.

Y nofel

[golygu | golygu cod]

Un o ddatblygiadau pwysicaf llên Lloegr yn y 18g oedd genedigaeth y nofel Saesneg. Gosododd llenorion yr 17g sail i ryddiaith ffuglennol soffistigedig: parhaodd rhamantau bugeiliol Elisabethaidd yn boblogaidd trwy gydol y ganrif, a chyfieithwyd nifer o straeon arwrol D'Urfé a La Calprenède o'r Ffrangeg i'r Saesneg. Arloesodd y Ffrancod hefyd genre amgen, yn groes i'r rhamant a'r arwrol, sef y stori realistig sydd yn ymwneud â bywyd pob dydd, er enghraifft Francion gan Sorel a Roman Bourgeois gan Furetière. Byddai rhyddiaith Saesneg yn nesu at ffurf y nofel yn ail hanner yr 17g, fel dangosir yn y dychan The English Rogue (1665) gan Richard Head, yr alegori hir The Pilgrim's Progress (1678) gan John Bunyan, a'r caeth-naratif Oroonoko (1688) gan Aphra Behn. Nodweddir ugain mlynedd gyntaf yr 17g gan ddirywiad yn y ddrama gain, yn sgil diwedd cyfnod theatr yr Adferiad. Adloniant bras megis y pantomeim oedd i'w weld yn gyffredin yn y chwaraedai, yn hytrach na dramâu mydryddol oesoedd Elisabeth ac Iago neu gomedïau ffraeth yr Adferiad. Ni chafodd flas deallusol y gynulleidfa Seisnig ei fodloni gan fyd y theatr, ac felly trodd at destun argraffedig am chwaeth lenyddol.[3] Yr oedd Saeson llythrennog ar ddechrau'r oes Sioraidd felly yn dderbyngar iawn i ddarllen rhyddiaith ffuglennol.

Y prif gystadleuydd am deitl y nofel fodern gyntaf yn Saesneg yw Robinson Crusoe (1719) gan Daniel Defoe (1660–1731). Dilynwyd yr honno gan sawl nofel arall gan Defoe, gan gynnwys Moll Flanders (1722), a Gulliver's Travels (1726) gan y Gwyddel Jonathan Swift (1667–1745). Wedi'r prifiant hwn, cadarnhawyd safle'r nofel Saesneg yn ystod teyrnasiad Siôr II (1727–60) dan ddylanwad tri nofelydd goreuaf y cyfnod: Samuel Richardson (1689–1761), Henry Fielding (1707–54), a'r Albanwr Tobias Smollett (1721–71). Llythyrwr celfydd oedd Richardson, ac efe a boblogeiddiodd y nofel epistolaidd yn Saesneg gyda'i dair nofel, Pamela (1740, a'i dilyniant ym 1741), Clarissa (1748), a Sir Charles Grandison (1753). Dyma esiamplau o'r nofel sentimental, sydd yn ymdrin yn dyner â theimladau'r cymeriadau, a rhoddir elfen realistig iddynt gan fanylder y disgrifiadau. Campwaith Fielding yw'r Bildungsroman digrif Tom Jones (1749), a luniodd batrwm ar gyfer twf naturiol i gynllun y naratif a therfyniad i'r stori, yn ogystal â phortread cywir o fywyd cyffredin. Smollett oedd awdur sawl nofel bicarésg boblogaidd am anturiaethau cymeriadau chwareus, gan gynnwys Roderick Random (1748), Peregrine Pickle (1751), a Humphrey Clinker (1771). Yn Tristram Shandy (1759), o law Laurence Sterne (1713–68), datblygwyd ffurf ar y nofel bicarésg gyda chanolbwynt ar gymeriadaeth yn hytrach na digwyddiadau, ac enghraifft gynnar o dechneg llif ymwybod. Arbrofodd Samuel Johnson gyda stori ddamhegol, neu athronyddol, yn Rasselas (1759), a chyflwynodd y Gwyddel Henry Brooke (1703–83) elfen ddiwinyddol i'r nofel yn The Fool of Quality (1765–70).

Ymddangosodd rhagor o genres ffuglennol yn ystod teyrnasiad Siôr III (1760–1820). Ysgrifennodd Oliver Goldsmith (1728–74) y nofel sentimental The Vicar of Wakefield (1766), yr enghraifft gyntaf o nofel eidylaidd yn Saesneg sydd yn disgrifio bywydau syml y werin yng nghefn gwlad. Priodolir Horace Walpole (1717–97) ysgrifennu'r nofel Gothig gyntaf, The Castle of Otranto (1764). Ffurf unigryw i ugain mlynedd olaf y ganrif oedd y nofel Jacobinaidd, sydd yn ymwneud â radicaliaeth wleidyddol ac yn gefnogol i ddelfrydau'r Chwyldro Ffrengig. Yr esiampl hanfodol o nofel Jacobinaidd yw Caleb Williams (1794) gan y newyddiadurwr ac athronydd William Godwin (1756–1836). Yn niwedd yr 17g hefyd blodeuai nofelwyr benywaidd. Mae nofelau Frances Burney (1752–1840), megis Evelina (1778), yn ymwneud â chylchoedd uchaf cymdeithas ac yn rhagflaenu nofelau ffasiynol y 1820au a'r 1830au, ac arloeswyd y nofel draserch gan Elizabeth Inchbald (1753–1821) gydag A Simple Story (1791). Ar un adeg, y nofelydd mwyaf poblogaidd yn Lloegr oedd Ann Radcliffe (1764–1823), sy'n nodedig am ei nofelau Gothig The Mysteries of Udolpho (1794) a The Italian (1797).

Rhamantiaeth a'i rhagflaenwyr (1790au)

[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr oes Ramantaidd, canolbwyntiai beirdd Lloegr yn fwyfwy ar natur, meddwl ac emosiwn yr unigolyn, a diwylliannau cyntefig ac estron yn hytrach na'r gymdeithas gyfarwydd ac effeithiau cynnar moderneiddio. Gogwydd at yr adain chwith oedd gan Ramantiaeth, a chofleidiodd cenedlaetholdeb a chynhyrfiad y gwrthryfel a'r chwyldro. Tynnai'r beirdd Rhamantaidd ar egwyddorion a gwireddau sylfaenol, megis serch, harddwch, ac iawnder, y tu allan i ffiniau bywyd pob dydd.

Y gerdd "The Blossom" o'r gyfrol Songs of Innocence, a ddarluniwyd gan y bardd William Blake.

Gelwir beirdd cynharaf y mudiad yn gyn-Ramantwyr, a'r amlycaf ohonynt oedd William Blake. Mynegir pryderon am ormes economaidd yn ei gerddi sy'n defnyddio iaith syml a symbolaeth gryf. Fe nodir am ei farddoniaeth delynegol, yn bennaf Songs of Innocence (1789) a Songs of Experience (1794), yn ogystal â'i gerddi traethiadol hirion sydd yn nodweddiadol o'i broffwydoliaeth.

Beirdd y Llynnoedd

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y cyfnod Rhamantaidd go iawn ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn 1798 pan gyhoeddwyd y casgliad Lyrical Ballads gan William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge. Y ddau fardd yma oedd y blaenaf o'r genhedlaeth gyntaf o'r Rhamantwyr yn nechrau'r 19g. Ynghyd â Robert Southey, y tri hwn oedd Beirdd y Llynnoedd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Peter Widdowson, The Palgrave Guide to English Literature and its Contexts, 1500–2000 (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2004), t. 61.
  2. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 52.
  3. Edmund Gosse, A History of Eighteenth Century Literature (Llundain: Macmillan, 1889), tt. 242–3.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]

Casgliadau a blodeugerddi
  • Paula R. Backscheider a Catherine E. Ingrassia (goln), British Women Poets of the Long Eighteenth Century: An Anthology (Baltimore: Johns Hopkins University Press, 2009).
  • David Fairer a Christine Gerrard (goln), Eighteenth-Century Poetry: An Annotated Anthology, 3ydd argraffiad (Caerfuddai: John Wiley & Sons, 2015).
  • Melinda C. Finberg, Eighteenth-Century Women Dramatists (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001).
  • Vivien Jones (gol.), Women in the Eighteenth Century: Constructions of Femininity (Llundain: Routledge, 2016).
  • Roger Lonsdale (gol.), Eighteenth-Century Women Poets: An Oxford Anthology (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1989).
  • Roger Lonsdale (gol.), The New Oxford Book of Eighteenth-Century Verse (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009).
  • Bradford K. Mudge (gol.), When Flesh Becomes Word: An Anthology of Early Eighteenth-Century Libertine Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004).
Astudiaethau cyffredinol
  • Gary Day a Bridget Keegan (goln), The Eighteenth-Century Literature Handbook (Llundain: Continuum, 2009).
  • Arthur Raleigh Humphreys, The Augustan World: Life and Letters in Eighteenth-Century England (Llundain: Methuen, 1954).
  • Ruth Mack, Literary Historicity: Literature and Historical Experience in Eighteenth-Century Britain (Stanford, Califfornia: Stanford University Press, 2009).
  • Elaine M. McGirr, Eighteenth-Century Characters: A Guide to the Literature of the Age (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2007).
  • Kate Parker a Courtney Weiss Smith, Eighteenth-Century Poetry and the Rise of the Novel Reconsidered (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 2013).
  • Claude Rawson, Order from Confusion Sprung: Studies in Eighteenth-Century Literature from Swift to Cowper (Llundain: Allen & Unwin, 1985).
  • Kenneth Richards a Peter Thomson (goln), Essays on the Eighteenth-Century English Stage (Llundain: Methuen, 1972).
  • John Richetti, A History of Eighteenth-Century British Literature (Caerfuddai: Wiley-Blackwell, 2016).
  • Pat Rogers (gol.), The Eighteenth Century (The Context of English Literature) (Llundain: Methuen, 1978.).
  • Pat Rogers, Hacks and Dunces: Pope, Swift and Grub Street (Llundain: Methuen, 1980).
  • Pat Rogers, Literature and Popular Culture in Eighteenth Century England (Brighton: Harvester Press, 1985).
  • Pat Rogers, Documenting Eighteenth Century Satire : Pope, Swift, Gay, and Arbuthnot in Historical Context (Newcastle-upon-Tyne: Cambridge Scholars, 2011).
  • George Saintsbury, The Peace of the Augustans: A Survey of Eighteenth Century Literature as a Place of Rest and Refreshment (Llundain: G. Bell & Sons, 1916).
  • James Sambrook, The Eighteenth Century: The Intellectual and Cultural Context of English Literature 1700-1789 (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2013).
  • W. A. Speck, Literature and Society in Eighteenth-Century England: Ideology, Politics and Culture, 1680-1820 (Llundain: Longman, 1998).
  • Charlotte Sussman, Eighteenth-Century English Literature: 1660–1789 (Caergrawnt: Polity, 2011).
Y nofel
  • Hilary Havens, Revising the Eighteenth-Century Novel: Authorship from Manuscript to Print (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2019).
  • J. Paul Hunter, Before Novels: Cultural Contexts of Eighteenth Century English Fiction (Efrog Newydd: W. W. Norton & Company, 1990).
  • Sarah Tindal Kareem, Eighteenth-Century Fiction and the Reinvention of Wonder (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014).
  • April London, The Cambridge Introduction to the Eighteenth-Century Novel (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2012).
  • John Richetti (gol.), The Cambridge Companion to the Eighteenth-Century Novel (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1996).
  • Harrison R. Steeves, Before Jane Austen: The Shaping of the English Novel in the Eighteenth Century (Efrog Newydd: Holt, Rinehart & Winston, 1965).
Barddoniaeth
  • John Arthos, The Language of Natural Description in Eighteenth-Century Poetry (Llundain: Frank Cass, 1949).
  • David Fairer, English Poetry of the Eighteenth Century 1700–1789 (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2014).
  • Christine Gerrard (gol.), A Companion to Eighteenth-Century Poetry (Caerfuddai: Blackwell, 2006).
  • John Goodridge, Rural Life in Eighteenth-Century English Poetry (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1996).
  • Deborah Kennedy, Poetic Sisters: Early Eighteenth-Century Women Poets (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 2012).
  • Jack Lynch (gol.), The Oxford Handbook of British Poetry, 1660–1800 (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2016).
  • Eric Parisot, Graveyard Poetry: Religion, Aesthetics and the Mid-Eighteenth-Century Poetic Condition (Farnham, Surrey: Ashgate, 2013).
  • John Sitter, The Cambridge Introduction to Eighteenth-Century Poetry (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2011).

Llenyddiaeth grefyddol
  • Donald Davie, The Eighteenth-Century Hymn in England (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1993).
  • John Seed, Dissenting Histories: Religious Division and the Politics of Memory in Eighteenth-Century England (Caeredin: Edinburgh University Press, 2008).
  • Alan P. F. Sell, John Locke and the Eighteenth-Century Divines (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997).
Llenorion benywaidd
  • Paula R. Backscheider, Eighteenth-Century Women Poets and Their Poetry: Inventing Agency, Inventing Genre (Baltimore: Johns Hopkins University Press, 2006).
  • Teresa Barnard (gol.), British Women and the Intellectual World in the Long Eighteenth Century (Farnham, Surrey: Ashgate, 2015).
  • Jennie Batchelor a Manushag N. Powell (goln), Women's Periodicals and Print Culture in Britain, 1690–1820s: The Long Eighteenth Century (Caeredin: Edinburgh University Press, 2018).
  • Melanie Bigold, Women of Letters, Manuscript Circulation, and Print Afterlives in the Eighteenth Century: Elizabeth Rowe, Catharine Cockburn and Elizabeth Carter (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2013).
  • Catherine Craft-Fairchild, Masquerade and Gender: Disguise and Female Identity in Eighteenth-Century Fictions by Women (University Park, Pennsylvania: Pennsylvania State University Press, 1993).
  • Moira Ferguson, Eighteenth-Century Women Poets: Nation, Class, and Gender (Albany, Efrog Newydd: State University of New York Press, 1995).
  • Deborah Heller (gol.), Bluestockings Now!: The Evolution of a Social Role (Farnham, Surrey: Ashgate, 2015).
  • Chantel M. Lavoie, Collecting Women: Poetry and Lives, 1700-1780 (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 2009).
  • Sylvia Harcstark Myers, The Bluestocking Circle: Women, Friendship, and the Life of the Mind in Eighteenth-Century England (Rhydychen: Clarendon Press, 1990).
  • Katrina O'Loughlin, Women, Writing, and Travel in the Eighteenth Century (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2018).
  • Betty A. Schellenberg, The Professionalization of Women Writers in Eighteenth-Century Britain (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2005).
Thema a genre
  • Ian A. Bell, Literature and Crime in Augustan England (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 1991).
  • Paddy Bullard (gol.), The Oxford Handbook of Eighteenth-Century Satire (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2019).
  • Max Byrd, Visits to Bedlam: Madness and Literature in the Eighteenth Century (Columbia, De Carolina: University of South Carolina Press, 1975).
  • Simon Dickie, Cruelty and Laughter: Forgotten Comic Literature and the Unsentimental Eighteenth Century (Chicago: University of Chicago Press, 2011).
  • James E. Gill (gol.), Cutting Edges: Postmodern Critical Essays on Eighteenth-Century Satire (Knoxville, Tennessee: University of Tennessee Press, 1995).
  • Sasha Handley, Visions of an Unseen World: Ghost Beliefs and Ghost Stories in Eighteenth Century England (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2007).
  • Emrys D. Jones a Victoria Joule (goln), Intimacy and Celebrity in Eighteenth-Century Literary Culture: Public Interiors (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2018).
  • Robert L. Mack, The Genius of Parody: Imitation and Originality in Seventeenth- and Eighteenth-Century English Literature (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2007).
  • Andrew O'Malley, The Making of the Modern Child: Children's Literature in the Late Eighteenth Century: Children's Literature and Childhood in the Late Eighteenth Century (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2003).
  • Julie Peakman, Mighty Lewd Books: The Development of Pornography in Eighteenth-Century England (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2003).
Diwylliant llenyddol a'r wasg
  • Jeremy Black, The English Press in the Eighteenth Century (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2011).
  • Joseph M. Levine, The Battle of the Books: History and Literature in the Augustan Age (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1991).
  • Joanna Maciulewicz, Representations of Book Culture in Eighteenth-Century English Imaginative Writing (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2018).
  • Jon Mee, Print, Publicity, and Popular Radicalism in the 1790s: The Laurel of Liberty (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2016).
  • Manushag N. Powell, Performing Authorship in Eighteenth-Century English Periodicals (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 2012).
  • James Raven, Publishing Business in Eighteenth-Century England (Woodbridge, Suffolk: Boydell Press, 2014).
  • Trevor Ross, Writing in Public: Literature and the Liberty of the Press in Eighteenth-Century Britain (Baltimore: Johns Hopkins University Press, 2018).
  • Abigail Williams, The Social Life of Books: Reading Together in the Eighteenth-Century Home (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2017).