Ambrose Philips

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ambrose Philips
Ambrose-philips.jpg
Engrafiad o Ambrose Philips gan arlunydd di-enw o'r 18g.
Ganwyd 9 Hydref 1674 Edit this on Wikidata
Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Mehefin 1749 Edit this on Wikidata (74 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth bardd, gwleidydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Iwerddon Edit this on Wikidata

Bardd a dramodydd Seisnig yn yr iaith Saesneg oedd Ambrose Philips (bedyddiwyd 9 Hydref 1674Mehefin 1749) sydd yn nodedig am ei fugeilgerddi.

Ganed yn Amwythig, Swydd Amwythig, yn bedwerydd mab i'r brethynnwr Ambrose Philips (bu farw 1677) a'i wraig Margaret, Brookes gynt (1648–1712) o Sir Drefaldwyn. Am amser hir, credwyd i'w deulu hanu o Swydd Gaerlŷr, wedi i Robert Shiels gam-dybio yn Lives of the Poets (1753) ei fod yn perthyn i Syr Ambrose Philips (bu farw 1706). Yn wir, o Swydd Warwick oedd teulu ei dad. Mynychodd Ysgol Amwythig cyn iddo astudio yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Bu'n gymrawd yno o 1699 i 1704. Cyfrannodd Philips gerdd er cof am y Frenhines Mari II i'r gyfrol Lacrymae Cantabrigienses (1695) a gyflwynwyd o Brifysgol Caergrawnt i'r teulu brenhinol. Ym 1700 ysgrifennodd fywgraffiad byr o John Williams, Archesgob Efrog, un o gymwynaswyr Coleg Sant Ioan.[1]

Ym 1705 fe'i comisiynwyd yn gapten-lefftenant yng nghatrawd y troedfilwyr, ac aeth ar ymgyrch i Sbaen yn ystod Rhyfel Olyniaeth Sbaen. Cafodd ei gipio yn sgil Brwydr Almansa (Ebrill 1707), a llwyddodd i ffoi a dychwelyd i Loegr cyn diwedd y flwyddyn. Yn Ionawr 1709 aeth i Ddenmarc fel ysgrifennydd i'r cennad Prydeinig, a bu yn y swydd honno nes diwedd 1710. Mae'n debyg i Philips ysgrifennu ei gasgliad cyntaf o gerddi pan oedd yn gymrawd yng Nghaergrawnt, ond na chawsant eu cyhoeddi nes 1710, yn y gyfrol Pastorals. Yn nechrau 1711, aeth Philips o Ddenmarc i'r Eidal i fod yn diwtor neu warchodwr i Simon Harcourt, mab yr Arglwydd Ganghellor Simon Harcourt. Yn y cyfnod hwn, mae'n bosib i Philips weithio yn ysgrifennydd i'w gyfaill Joseph Addison. Drama enwocaf Philips yw The Distrest Mother (1712), addasiad o Andromaque gan Jean Racine. Am gyfnod byr ym 1714, bu Philips yn diwtor i wyrion y Brenin Siôr I.[1]

Yn Nhachwedd 1724 aeth Philips i Ddulyn yng nghwmni Hugh Boulter, Archesgob Holl Iwerddon. Ym 1727 penodwyd Philips yn geidwad y pwrs gan yr Arglwydd Ganghellor Peter King, a chafodd ei ethol yn aelod seneddol dros Armagh. Eisteddai yn Nhŷ'r Cyffredin Iwerddon am 22 mlynedd, hyd at ei farwolaeth. Methiant a fu ymdrechion Boulter i sicrhau swyddi o fri i Philips, a throdd Philips o'r diwedd at y gyfraith ym 1734, yn 60 oed, gan dderbyn swydd cofrestrydd i'r llys uchelfraint. Ym 1748 casglodd Philips ragor o'i gerddi, gan gynnwys un er cof am y Brenin Wiliam III (1702) ac "Epistle from Utrecht" (1703). Bu farw yn Llundain yn 75 oed, yn nechrau Mehefin 1749. Cafodd ei gladdu ar 4 Mehefin yng Nghapel Grosvenor, Stryd Audley.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Andrew Varney, "Philips, Ambrose (bap. 1674, d. 1749)" yn Oxford Dictionary of National Biography (2007). Adalwyd ar 7 Ionawr 2021.