Rhyfel Olyniaeth Sbaen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Darluniad o Gytundeb Utrecht (1713).

Gwrthdaro rhwng gwledydd Ewrop yn y cyfnod 1701–14 a sbardunwyd gan farwolaeth Carlos II, brenin Sbaen, yr olaf o frenhinllin Hapsbwrgiaid Sbaen, ym 1700 oedd Rhyfel Olyniaeth Sbaen (Sbaeneg: Guerra de sucesión española). Ymladdwyd y rhyfel rhwng Hapsbwrgiaid Sbaen a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, gyda chefnogaeth Taleithiau Unedig yr Iseldiroedd a Theyrnas Prydain Fawr, yn erbyn Bourboniaid Sbaen a Theyrnas Ffrainc. Hwn oedd y rhyfel olaf a ymladdwyd rhwng sawl clymblaid wahanol i wrthwynebu twf tiriogaethol Ffrainc dan y Brenin Louis XIV, wedi'r Rhyfel Datganoli (1667–68), Rhyfel Ffrainc a'r Iseldiroedd (1672–78), Rhyfel yr Aduniadau (1683–84), a'r Rhyfel Naw Mlynedd (1688–97). Bu Rhyfel Olyniaeth Sbaen yn gysylltiedig â sawl gwrthdaro arall, gan gynnwys Rhyfel Annibyniaeth Rákóczi yn Hwngari (1703–11), gwrthryfel y Camisardiaid yn ne Ffrainc (1702–10), Rhyfel y Frenhines Ann (1702–13), a Rhyfel Mawr y Gogledd (1700–21).

Er iddo briodi ddwywaith, ni chafodd Carlos II (t. 1665–1700) yr un plentyn, ac mae'n debyg nad oedd ganddo y gallu corfforol i gael plant. Ar ddiwedd ei deyrnasiad, problem yr olyniaeth oedd pwnc pwysicaf y llys. Ceisiodd yr Awstriaid (Tŷ Hapsbwrg) a'r Ffrancod (Tŷ Bourbon) i berswadio Carlos i ddewis un o'i berthnasau estynedig o'r llinachau hynny i'w olynu yn frenin Sbaen. Yn ei ewyllys, enwodd ei or-nai Philippe, Dug Anjou yn olynydd iddo. Yn sgil marwolaeth Carlos II yn 38 oed, aflonyddwyd y cydbwysedd grym yn Ewrop gan ddyfodol Ymerodraeth Sbaen. Cydnabuwyd hawl Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a oedd yn gefnder i Carlos II, i goron Sbaen gan Loegr (Prydain Fawr yn ddiweddarach), yr Iseldiroedd, a'r rhan fwyaf o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Er gwaethaf, llwyddodd Siarl i reoli Tywysogaeth Catalwnia yn unig. Ym 1711, etifeddodd Siarl holl diriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd a choron yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Bellach, nid oedd ei gynghreiriaid yn fodlon iddo sicrhau Sbaen hefyd, a chafodd Philippe o Dŷ Bourbon ei gydnabod yn Felipe V, brenin Sbaen gan Gytundeb Utrecht ym 1713. Parhaodd y brwydro rhwng lluoedd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd â'r Ffrancod nes Cytundeb Rastatt ym Mawrth 1714, a rhwng Ffrainc a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig nes Cytundeb Baden ym Medi 1714.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • James Falkner, The War of the Spanish Succession 1701–1714 (Barnsley, De Swydd Efrog: Pen & Sword Military, 2015).