Neidio i'r cynnwys

Gwŷr ieuainc dicllon

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Dynion ifanc dig)
Gwŷr ieuainc dicllon
Enghraifft o:grŵp o bobl, literary group Edit this on Wikidata

Grŵp o ddramodwyr a nofelwyr o'r dosbarth gweithiol a'r dosbarth canol is oedd y "gwŷr ieuainc dicllon"[1] (Saesneg: angry young men) a ddaeth i'r amlwg yn llenyddiaeth Saesneg y Deyrnas Unedig yn y 1950au. Ymhlith aelodau'r grŵp oedd John Osborne, Kingsley Amis, Alan Stilltoe, Arnold Wesker, John Braine, Bernard Kops, Colin Wilson, John Wain, Stuart Holroyd, a Bill Hopkins. Mynegasant ddirmyg ac anniddigrwydd â'r hen drefn wleidyddol-gymdeithasol Brydeinig, a chawsant eu digio'n enwedig gan fethiannau a rhagrithion honedig y dosbarth canol a'r dosbarth uchaf. Nodweddir eu gwaith gan wrthdaro rhwng yr unigolyn a'r gymdeithas, beirniadaeth o'r "Sefydliad", ansicrwydd gwrywdod, ac ymdriniaeth o effeithiau'r wladwriaeth les a'r consensws gwleidyddol newydd. Prif gymeriad cynrychioliadol y gŵr ifanc dicllon ydy dyn o'r dosbarth gweithiol, neu'r dosbarth canol is, heb wreiddiau neu'n amddifad o'i amgylchiadau, yn digio wrth awdurdod ond hefyd yn ceisio gwella'i statws yn y drefn sydd ohoni. Mae themâu trais a rhyw hefyd yn elfennau cyffredin o ffuglen y gwŷr ieuainc dicllon.[2][3]

Defnyddiwyd yr ymadrodd angry young man gan swyddog y wasg y Royal Court Theatre i ddisgrifio John Osborne wrth hyrwyddo'i ddrama Look Back in Anger ym 1956. Credir i'r term darddu o hunangofiant Leslie Paul, sefydlydd y Woodcraft Folk, a gyhoeddodd Angry Young Man ym 1951. Yn sgil llwyddiant drama Osborne, defnyddiodd y wasg Lundeinig yr enw i ddisgrifio llenorion ifanc, o Loegr yn bennaf, a oedd yn ddadrithiedig gyda'r gymdeithas draddodiadol ac wedi eu siomi gan yr addewidion nas cyflawnid yn y ddeng mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Troswyd yr enw i'r Gymraeg, ar ffurf "gwŷr ieuainc dicllon", gan John Rowlands yn ei nofel Yn Ôl i'w Teyrnasoedd (1963).[1]

Term amhenodol a fu ers ei fathu, ac mae'n cyfeirio at ogwydd neu fudiad cyffredinol yn hytrach na chylch o lenorion. Nid oedd y mwyafrif ohonynt yn cydweithio neu'n cymdeithasu gyda'i gilydd, ac wrth i'r 1950au mynd rhagddi aeth gwaith y prif lenorion yn fwyfwy wahanol. Fodd bynnag, bu tri ohonynt—Holroyd, Wilson, a Hopkins—yn gyfeillion, ac mae rhai beirniaid yn ystyried Declaration (1957), antholeg o ysgrifau gan gynnwys sawl un o'r gwŷr ieuainc dicllon, yn rhyw fath o faniffesto ar y cyd i'r mudiad. Bu'r beirniad theatr Kenneth Tynan yn brif ladmerydd Osborne a'r dramodwyr eraill, gan ganu clodydd y ddrama realaidd Seisnig. Pallodd y mudiad erbyn dechrau'r 1960au.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]