Jeremy Bentham

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jeremy Bentham
Jeremy Bentham by Henry William Pickersgill detail.jpg
Ffugenw Philip Beauchamp, Gamaliel Smith Edit this on Wikidata
Ganwyd 15 Chwefror 1748 Edit this on Wikidata
Houndsditch Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Mehefin 1832 Edit this on Wikidata (84 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth athronydd, Ysgrifennwr, masnachwr, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Mudiad Defnyddiolaeth Edit this on Wikidata
Llofnod
Jeremy Bentham signature.svg

Athronydd gwleidyddol, cyfreithegwr, ac economegydd o Sais oedd Jeremy Bentham (15 Chwefror 1748 – 6 Mehefin 1832). Efe a John Stuart Mill yw'r ddau Sais a gydnabyddir yn arloeswyr defnyddiolaeth, yr athroniaeth sy'n dadlau taw'r lles cyffredin yw'r unig ystyriaeth parthed moeseg a chyfiawnder. Meddai'r Gwyddoniadur Cymreig am ei ysgrifeniadau: "Y maent yn ystorfa o addysg i wladweinwyr, ac yn arfdy at wasanaeth diwygwyr cyfreithiol".[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Plentyndod ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mab ydoedd i gyfreithiwr, a ganwyd ef yn Houndsditch, Llundain. Dywed iddo ddechrau astudio Lladin yn 4 oed. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Westminster, ac yno roedd yn hoff o farddoni yn Lladin a Groeg. Aeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen yn 1760, a graddiodd yn faglor y celfyddydau yno pan yn 16 oed, ac yn feistr pan yn 20. Wedi iddo dderbyn ei radd gyntaf, ymunodd ag Lincoln's Inn, un o Ysbytai'r Frawdlys, yn Nhachwedd 1763 i astudio'r gyfraith. Tra'n mynychu achosion Mainc y Brenin yn yr Uchel Lys, fe wrandawodd ar ddyfarniadau'r Arglwydd Brif Ustus Mansfield. Yn Rhagfyr 1763 dychwelodd i Rydychen i wrando ar ddarlithoedd Syr William Blackstone, ond ni chodwyd edmygedd yn y llanc Jeremy gan ddadleuon y cyfreithegwr hwnnw. Treuliodd Bentham y mwyafrif o'i amser yn gwneud arbrofion cemegol ac yn ymddiddori yn namcaniaeth y gyfraith yn hytrach nag achosion llys, a ni ymroes i'r gwaith pan fe'i alwyd i'r Bar.[2]

Teithiau a gweithiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei waith llenyddol cyntaf a gyhoeddwyd oedd A Fragment on Government (1776), sy'n ymdrin â phwnc y llywodraeth parthed y Commentaries on the Laws of England gan Blackstone. Mae'r gwaith yn beirniadu Blackstone am wrthod diwygio'r gyfraith, ac yn ymchwilio i natur sofraniaeth. Gellir ystyried y gwaith hwn yn brif fan cychwyn radicaliaeth yn athroniaeth Lloegr. Un o edmygwyr y Fragment oedd Iarll Shelburne (a fu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o 1782 i 1783), a fu Bentham yn galw'n aml arno yn ei gartref.[2]

Ymwelodd Bentham â Ffrainc amryw weithiau, a rhwng y blynyddoedd 1784 a 1788 teithiodd i Gaergystennin a thrwy'r rhan fwyaf o Ewrop ar ei ffordd i ymweld â'i frawd Samuel, a oedd yn beiriannydd yn lluoedd arfog Rwsia. Ysgrifennodd ei Defence of Usury tra yn Rwsia, a gyhoeddwyd yn 1787, a dyma'r traethawd cyntaf ganddo ar bwnc economeg. Gellir ystyried Bentham yn un o economegwyr yr ysgol glasurol, gan iddo efelychu syniadau Adam Smith ac ymdrin ag economi wleidyddol gan amlaf o safbwynt laissez-faire.

Syniadaeth wleidyddol a chyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd i Loegr yn 1788, a chanddo obeithion o ganlyn gyrfa wleidyddol. Ymhen ychydig, rhodd y gorau i fod yn wleidydd a throdd ei sylw at astudio egwyddorion deddfwriaeth. Cyhoeddwyd cynnyrch ei astudiaethau, An Introduction to the Principles of Morals and Legislation yn 1789. Yn y llyfr hwnnw arloesai ei syniad o les neu fudd (Saesneg: utility): "y briodwedd honno mewn unrhyw beth yn ôl yr hon mae'n tueddu i gynhyrchu pleser, da neu hapusrwydd, neu yn atal helynt, poen, drwg neu anhapusrwydd rhag digwydd". Dadleuai bod yr egwyddor hon yn adlewyrchu'r sefyllfa ddynol, a'r ddau gymhelliad sydd yn rheoli ymddygiad, sef poen a phleser. Ffurf ar ganlyniadaeth yw defnyddiolaeth Bentham, sydd yn dadlau dros ddeddfu er "y hapusrwydd mwyaf i'r nifer fwyaf".[2]

Gwaith mawr ei oes oedd cyfansoddi a darparu ei lyfrau i'r wasg, ac yr oedd yn byw o'r bron yn feudwyol yn Sgwâr y Frenhines, Westminster. Dyn rhyfedd oedd Bentham, ond cafodd fywyd ffodus a bu'n gyfeillgar â nifer o feddylwyr mawr yr oes gan gynnwys James Mill a David Ricardo. Er iddo gael ei fagu'n Dori, trodd yn ddemocrat pybyr dan ddylanwad meddylfryd yr Oleuedigaeth. Yn 1809, ysgrifennodd pamffled o blaid etholiadau blynyddol, ehangu'r etholfraint, a'r bleidlais gudd, A Catechism of Parliamentary Reform, a gyhoeddwyd yn 1817. Dadleuodd Bentham dros alluogi menywod i lywodraethu a ddiwygio'r gyfraith parthed ysgariad. Amlinellodd ei syniadau ynglŷn â diwygio carchardai a'r farnwriaeth yn Panopticon a Plan of a Judicial Establishment. Ysgrifenodd lawer o erthyglau i'r Westminster Review, cylchgrawn radicalaidd a sefydlwyd ganddo ef yn 1823, ac i'r Annals of Agriculture gan Arthur Young. Un o'i gampau anorffenedig oedd ei ymdrech i gyfundrefnu'r gyfraith gyfansoddiadol, a gyhoeddwyd ar ffurf un gyfrol, y Constitutional Code, wedi ei farwolaeth.

Ei gorff[golygu | golygu cod y dudalen]

Corff Bentham yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.

Wedi marwolaeth Bentham, cafodd ei gorff ei ddyrannu ger bron ei gyfeillion, yn ôl gofynion ei ewyllys. Cafodd ei ben ei wahanu oddi ar y corff a'i fwmeiddio, ac yn y broses ddysychu gwnaed difrod i olwg ei wyneb. Ailosodwyd ei sgerbwd at ei gilydd a gwnaed pen o gwyr ar ei gyfer. Gwisgwyd y corff yn nillad Bentham, a'i osod ar ei eistedd mewn cwpwrdd mawr pren gyda gwydr o'i flaen. Arddangosir ei gorff i'r cyhoedd yng Nghlasordai'r De ym mhrif adeilad Coleg y Brifysgol, Llundain (UCL). Am flynyddoedd, arddangoswyd ei ben go iawn hefyd yn yr adeilad, ond ers i fyfyrwyr Coleg y Brenin, Llundain gipio'r pen a'i ddal am bridwerth yn 1975 fe'i cedwir dan glo'r curadur.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. John Parry a J. Ogwen Jones (gol.), Y Gwyddoniadur Cymreig cyf. 10 (Dinbych: Thomas Gee, 1879), t. 455.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Jeremy Bentham. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2018.
  3. (Saesneg) "Bentham Project: Auto-Icon", Coleg y Brifysgol, Llundain. Adalwyd ar 17 Tachwed 2018.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.