George Lillo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
George Lillo
GeorgeLilloPort.jpg
Darluniad o George Lillo.
Ganwyd 4 Chwefror 1691 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Medi 1739 Edit this on Wikidata (48 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am The London Merchant Edit this on Wikidata

Dramodydd Seisnig yn yr iaith Saesneg oedd George Lillo (Chwefror 1691 neu 4 Chwefror 16933 Medi 1739) sydd yn nodedig am ei drasiedi The London Merchant (1731).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed George Lillo yn Llundain, y tu mewn i ffiniau Dinas Llundain mae'n debyg, naill ai yn ardal Moorfields neu ger porth Moorgate. Yn ôl cofrestr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd Austin Friars, Dinas Llundain, cafodd plentyn o'r enw Joris van Lillo, mab Jacobus van Lillo a'i wraig Elisabeth Whitehorn, ei fedyddio yno ar 8 Chwefror 1691. Mae cyfeiriad at "fy nghyfnither Ann Whitehorn" yn ewyllys Lillo yn awgrymu ei fod yn epil y teulu hwn, ac yn debyg efe oedd Joris van Lillo, pedwerydd plentyn Jacobus ac Elisabeth. Er gwaethaf, mae'r cofnod o fywyd Lillo yn The Lives of the Poets of Great Britain and Ireland (1753) a briodolir i Theophilus Cibber, a'r bywgraffiad byr a gynhwysir gan Thomas Davies yn ei argraffiad o weithiau Lillo, yn honni taw 4 Chwefror 1693 oedd dyddiad geni'r dramodydd.[1][2] Yn ôl cofrestr angladdau Eglwys St Leonard, Shoreditch, roedd Lillo yn 46 oed pan fu farw, sydd yn awgrymu iddo gael ei eni ym 1693.[3]

Treuliodd Lillo ei holl oes yn Llundain. Mae'n debyg iddo gael ei fagu yn ardal ei enedigaeth, ac ar ddiwedd ei oes trigodd yn Rotherhithe. Yn ôl Thomas Davies, gweithiodd Lillo yn gemydd neu'n of aur. Nid oes tystiolaeth o wraig neu blant gan Lillo.[3]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnodd Lillo ar ei yrfa yn y theatr ym 1730, yn niwedd ei dri degau. Opera faled a oedd yn cyfuno comedi faswedd a rhamant foesolaidd oedd ei waith cyntaf, Sylvia; or, The Country Burial, a oedd yn ceisio efelychu llwyddiant The Beggar's Opera (1728) gan John Gay, yr opera faled gyntaf yn theatr Lloegr. Perfformiwyd Sylvia teirgwaith yng Nghaeau Lincoln's Inn yn Nhachwedd 1730, a chafodd fersiwn cwta ei berfformio, unwaith yn unig, yn Covent Garden ym Mawrth 1738.[3]

Ysgrifennodd Lillo ei ddrama enwocaf, The London Merchant; or, The History of George Barnwell, yn seiliedig ar hen faled am brentis o Lundain o'r enw George Barnwell a phutain o'r enw Sarah Millwood. Hon oedd y drasiedi gartref ryddiaith gyntaf yn yr iaith Saesneg, gyda phobl o'r dosbarth canol a'r dosbarth gweithiol yn hytrach nag uchelwyr yn brif gymeriadau. Cafodd Lillo ei ysbrydoli gan drasiediwyr yr Adferiad a'r Oes Awgwstaidd, yn bennaf Thomas Otway, Thomas Southerne, a Nicholas Rowe, yn ogystal â dramâu cartref mydryddol y theatr Elisabethaidd megis A Yorkshire Tragedy. Ym 1731 cynigodd Lillo ei ddrama i Theophilus Cibber, rheolwr cwmni actorion yr haf yn Drury Lane. Bwriad y dramodydd oedd osgoi beirniadaeth hallt gan "adolygwyr y gaeaf". Perfformiwyd The London Merchant am y tro cyntaf yn Drury Lane ar 22 Mehefin 1731, yn serennu Theophilus Cibber fel Barnwell ac Elizabeth Butler yn rhan Millwood. Gwerthwyd argraffiadau newydd o'r faled ar draws Llundain er hyrwyddo'r ddrama. Bu'r perfformiad yn llwyddiant ysgubol, a chafodd ei actio 17 o weithiau yn Drury Lane yn ystod yr haf ac 11 o weithiau yn y tymor rheolaidd a ddilynai. Ar 28 Hydref 1731 perfformiwyd The London Merchant o flaen y Brenin Siôr II a'r Frenhines Caroline. Ar 27 Rhagfyr 1731, diwrnod a oedd yn ŵyl i brentisiaid, perfformiwyd y gwaith mewn dwy theatr, a dyma ddechrau traddodiad a barodd hyd at y 19g. Erbyn 1 Mehefin 1732, perfformiwyd y ddrama ym mhob un theatr yn Llundain. Cafodd The London Merchant ddylanwad pwysig ar y ddrasiedi gartref yn Lloegr yn ogystal â'r drame bourgeois yn Ffrainc a'r Bürgerliches Trauerspiel yn y gwledydd Almaeneg. Ysgrifennodd Denis Diderot ei ddrama Le Fils naturel (1757) ar ddelw The London Merchant. Yn Nhachwedd 1735, aseiniodd Lillo hawlfraint The London Merchant i'w gyfaill, y gwerthwr llyfrau John Gray. Y ddogfen berthnasol ydy'r cofnod cyntaf sydd yn nodi i Lillo breswylio yn Rotherhithe.[3]

Yn niwedd 1733 neu yn nechrau 1734 ysgrifennodd Lillo fasc byr o'r enw Britannia and Batavia i ddathlu priodas y Dywysoges Anne a Wiliam IV, Tywysog Orange. Ni chafodd y masc erioed ei berfformio, a chaiff ei gymysgu weithiau â masc o'r enw Britannia; or, The Royal Lovers gan Henry Carey a berfformiwyd yn Theatr Goodman's Fields yn Chwefror 1734. Cyhoeddwyd Britannia and Batavia am y tro cyntaf yng nghasgliad Gray o weithiau Lillo ym 1740. Stori arwrol ar fydr oedd ei ddrama nesaf, The Christian Hero, yn seiliedig ar hanes Skanderbeg a wrthryfeloedd yn erbyn yr Otomaniaid yn y 15g. Ffynhonnell Lillo oedd Scanderbeg the Great, trosiad Saesneg o'r nofel Le Grand Scanderberg (1688) gan Anne de la Roche Guilhem. Perfformiwyd The Christian Hero am y tro cyntaf yn Drury Lane ar 13 Ionawr 1735, a theirgwaith eto. Trasiedi gartref ar fydr yw Fatal Curiosity, drama enwocaf Lillo ac eithrio The London Merchant. Cynhyrchwyd ar 6 Mai 1736 gan gwmni Henry Fielding yn theatr y Haymarket. Er gwaethaf ymdrechion y dramodydd i hyrwyddo'r ddrama, bu dim ond pum perfformiad arall. Ceisiodd Fielding adfer Fatal Curiosity yn y tymor theatr dilynol, ond rhoddwyd terfyn ar hynny gan y Ddeddf Drwyddedu (1737).[3]

Addasiad o actiau IV a V y ddrama Pericles, gan William Shakespeare, yw Marina, a berfformiwyd yn gyntaf yn Covent Garden ar 1 Awst 1738. Mae'n debyg i Lillo ysgrifennu'r gwaith dan ddylanwad y Shakespeare Ladies' Club a sefydlwyd i ddwyn perswâd ar reolwyr theatrau Llundain i flaenoriaethu'r canon Shakespearaidd yn hytrach na sioeau ysgeifn megis yr harlecwinâd. Methiant oedd Marina, a barodd am dri pherfformiad yn unig. Y ddrama olaf a gyflawnwyd ganddo oedd Elmerick; or, Justice Triumphant. Hanes András II, Brenin Hwngari, yw cefndir y drasiedi arwrol hon sydd yn ymosodiad ddamhegol ar lywodraeth Robert Walpole. Ysgrifennwyd rhagaraith y ddrama gan y bardd James Hammond, a'r epilog gan yr Arglwydd Lyttelton mae'n debyg, y ddau ohonynt yn aelodau o gylch Frederick, Tywysog Cymru. Cafwyd chwe pherfformiad o Elmerick yn Drury Lane, y cyntaf ar 23 Chwefror 1740, ychydig fisoedd wedi marwolaeth y dramodydd.[3]

Bu farw George Lillo yn Rotherhithe ar 3 Medi 1739, yn 46 neu 48 oed, a chafodd ei gladdu yn Eglwys St Leonard, Shoreditch, ar 6 Medi. Yn ôl y rhagaraith i Elmerick, bu farw Lillo heb yr un geiniog, ond mae ei ewyllys yn cymynroddi arian, eiddo personol, ac eiddo real i nifer o'i berthnasau.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Theophilus Cibber et al., The Lives of the Poets of Great Britain and Ireland, Vol. V (Llundain: R. Griffiths, 1753), tt. 338–40.
  2. Thomas Davies (gol.), The Dramatic Works of George Lillo, Vol. 1 (Llundain: W. Lowndes, 1810), t. 7.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 (Saesneg) James L. Steffensen, "Lillo, George (1691/1693–1739)" yn Oxford Dictionary of National Biography (2008). Adalwyd ar 4 Ionawr 2021.