Llên Lloegr yn yr 17eg ganrif

Oddi ar Wicipedia

Cychwynnodd llên Lloegr yn yr 17eg ganrif fel ymestyniad o draddodiad theatr a barddoniaeth y ganrif gynt. Erbyn y cyfnod hwn, Saesneg oedd y brif iaith lenyddol yn Lloegr, a defnyddid Lladin gan amlaf i ysgrifennu am athroniaeth, y gwyddorau, crefydd, a phynciau eraill a anelir at gynulleidfa Ewropeaidd. Yn y ganrif hon, cyn i'r iaith Saesneg ymledu i drefedigaethau'r Byd Newydd a chymryd tir oddi ar yr ieithoedd Celtaidd mewn gwledydd eraill Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, mae'r termau llên Lloegr a llenyddiaeth Saesneg bron yn gyfystyr â'i gilydd.

Y ddrama yn Oes Iago[golygu | golygu cod]

Portread o Ben Jonson.

Yn Oes Elisabeth (1558–1603), cynhyrchwydd traddodiad yn y theatr Saesneg a ystyrir bellach yn un o'r cyfnodau gwychaf yn llenyddiaeth yr holl fyd. Dyma oedd oes y Dadeni Seisnig, a oedd yn hwyr i gyrraedd Lloegr o gymharu â'r Dadeni ar y cyfandir, a pharhaodd hyn trwy gydol Oes Iago (1603–25). William Shakespeare (1564–1616) a Ben Jonson (1572–1637) oedd prif ddramodwyr y theatr Saesneg yn nechrau'r 17g. Ysgrifennodd Shakespeare comedïau arloesol yn ogystal â'i drasiedïau clasurol ac hanesion canoloesol, ac yn ôl nifer Shakespeare ydy'r llenor goreuaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg, un o'r ffigurau diwylliannol rhagoraf yn hanes diwylliannol Lloegr, ac un o'r ddramodwyr pwysicaf o unrhyw wlad. Ymhlith enwau eraill y cyfnod mae Francis Beaumont (1584–1616) a John Fletcher (1579–1625). Roedd nifer o'r rhain yn feirdd yn ogystal â dramodwyr.

Barddoniaeth y Metaffisegwyr a'r Cafaliriaid[golygu | golygu cod]

Portread o John Donne.

Fel rheol, rhennir barddoniaeth Saesneg yn hanner cyntaf yr 17g yn ddau draddodiad: y Beirdd Metaffisegol a'r Beirdd Cafaliraidd. Naws ddeallusol ac ysbrydol sydd i farddoniaeth John Donne (1572–1631), y cyntaf o'r Metaffisegwyr. Delweddaeth anarferol a llinellau arabus sydd yn lliwio'i gerddi, a dyrchefir cynnwys yn hytrach na ffurf. Yn ogystal â'i gerddi serch, fe gyfansoddodd barddoniaeth grefyddol. Ysgrifennwyd cerddi duwiol hefyd gan Fetaffisegwr arall, yr Eingl-Gymro George Herbert (1593–1633), a chyda delweddaeth Gatholig gan Richard Crashaw (1613–49). Ymhlith beirdd eraill y traddodiad Metaffisegol mae Thomas Traherne (1637–74) ac Abraham Cowley (1618–67).

Tarddai'r traddodiad Cafaliraidd o waith Ben Jonson, dramodydd amlycaf Oes Iago wedi marwolaeth Shakespeare, a efelychodd farddoniaeth glasurol. Ei gerddi mwyaf dylanwadol yw ei delynegion a ysgrifennir i ferched. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, mabwysiadwyd llinellau cryno ar batrwm Jonson gan Robert Herrick (1591–1674) a'i gyfeillion a alwodd eu hunain yn "Feibion Ben". Brenhinwyr, neu Gafaliriaid, oedd nifer o'r beirdd hyn a gefnogai'r Brenin Siarl I yn y rhyfel. Delfrydau megis serch llys ac aristocratiaeth sydd yn nodweddu barddoniaeth y criw hwn. Neges gyffredin yn eu telynegion bachog, ffraeth sy'n annerch merched yw "cipio'r dydd" (carpe diem), er enghraifft "To His Coy Mistress" gan Andrew Marvell (1621–78), "Go, lovely rose" gan Edmund Waller (1606–87), "Why so pale and wan, fond lover?" gan Syr John Suckling (1609–42), a "To Althea, from Prison" gan Richard Lovelace (1618–57). Ysgrifennodd Marvell awdlau ac ymgomion yn ogystal â thelynegion, ac yn yr arddull Fetaffisegol hefyd.

Llenyddiaeth grefyddol[golygu | golygu cod]

Un gwaith a gafodd ddylanwad sylweddol ar lên Lloegr yn y ganrif hon, ac ar yr iaith Saesneg ei hun, oedd Beibl Saesneg y Brenin Iago, neu'r Fersiwn Awdurdodedig, a gyhoeddwyd yn 1611. O bosib dyma'r rhyddiaith bwysicaf yn holl lenyddiaeth y Saeson, cyfieithiad o'r Beibl a gafodd effaith hollbwysig ar hunaniaeth ac hanes Eglwys Loegr. Yn y cyfnod hwn bu flodeuo yn llenyddiaeth ddefosiynol gan ddiwinyddion Anglicanaidd megis Jeremy Taylor (1613–67).

Yr Adferiad[golygu | golygu cod]

Wedi i Siarl II gael ei goroni yn 1660, gan adfer y frenhiniaeth yn Lloegr a dod â'r Werinlywodraeth i ben, llaciwyd ar y deddfau piwritanaidd yn erbyn mynegiant gwleidyddol a chrefyddol, ac roedd llenorion yn hawlio rhyddid creadigol unwaith eto ar ddychan a'r ddrama. Blodeuai oes o ffraethineb a gogan brathog yn llenyddiaeth Saesneg a barodd am ganrif gyfan. Gelwir dechrau'r cyfnod hwn yn llên Lloegr, o 1660 i 1700, yn oes yr Adferiad.

Daeth y ddrama gomedi yn hynod o boblogaidd, yn enwedig y gomedi foesau, yn ogystal â dramâu arwrol dan ddylanwad newydd-glasuriaeth y theatr Ffrengig. Ymhlith y prif ddramodwyr gellir enwi George Etherege (1636–92), William Wycherley (1641–1716), Syr John Vanbrugh (1664–1726), a William Congreve (1670–1729). Canolbwyntiai beirdd y cyfnod hwn ar ymddygiad dynol a gwleidyddiaeth mewn arddull syml a chymedrol sy'n adlewyrchu'r heddwch a fu wedi'r rhyfeloedd cartref. Câi'r cyfnod ei gymharu â theyrnasiad Awgwstws Cesar a welai nifer o'r beirdd Rhufeinig gwychaf, ac am y rheswm hwnnw fe'i gelwir yn oes newydd-glasurol barddoniaeth Saesneg Lloegr. Datblygwyd arni'n gryf gan fudiad rhesymoliaeth a'i phwyslais ar drefn a chynildeb y dychymyg a gosod y ddynolryw a chymdeithas y bwnc testun yn hytrach na chrefydd a'r pethau duwiol. Llenor arall o nod ydy Aphra Behn (1614–89), dramodydd, bardd, a rhyddieithwraig ac o bosib y fenyw gyntaf yn hanes Ewrop i ennill ei thamaid drwy ysgrifennu.

Tudalen flaen yr argraffiad cyntaf o Paradise Lost gan Milton.

Bardd pwysicaf yr oes newydd-glasurol, ac un o lenorion uchaf eu bri yn holl lên Loegr, yw John Milton (1608–74). Ystyrir ei gampwaith, Paradise Lost (Coll Gwynfa, 1667) yn arwrgerdd oreuaf yr iaith Saesneg modern, ac ynddi mae'r bardd yn cyfuno disgrifiadau byw a thraethiad hynod o ddramatig gydag arddull soniarus megis Spenser. Ysgrifennodd Milton hefyd ail arwrgerdd o'r enw Paradise Regained (1671), y ddrama farddonol Samson Agonistes (1671), a nifer o sonedau da. Er iddo gyfansoddi ei geinion yn oes yr Adferiad, Piwritan ac un o gefnogwyr achos Cromwell oedd Milton, ac mae'n rhai ystyried ei waith felly yn wahanol i ysbryd penrhydd y beirdd llysol a'r theatr gomig. Awdur duwiol arall oedd John Bunyan (1628–88), a ysgrifennodd yr alegori hir The Pilgrim's Progress (Taith y Pererin, 1678).

Er yn y theatr a'r nofel mae enghreifftiau amlycaf o lên ddigrif a dychanol yn ail hanner yr 17g, roedd hiwmor a gogan yn elfen bwysig o farddoniaeth y cyfnod hefyd. Nodai cychwyn yr oes ddychanol gan y gerdd "Hudibras", a gyhoeddwyd gan Samuel Butler (1613–80) mewn tair rhan (1663–78), sy'n gwatwar anghydffurfiaeth grefyddol a gwleidyddol Cromwell a'r Piwritaniaid. Mae'r gwaith hwnnw hefyd yn barodi o ddelfrydiaeth ramantaidd yr oesoedd cynt, yn enwedig "The Faerie Queene" gan Spenser. Bardd dychanol gwychaf y cyfnod, a'r cyntaf o'r newydd-glasurwyr, oedd John Dryden (1631–1700). Bardd achlysurol a dramodydd o fri oedd Dryden, a gafodd ei benodi'n Bardd Llawryfog cyntaf Lloegr. Cychwynnodd ar gyfnod dychanol ei yrfa pan gyfansoddai ffugarwrgerdd o'r enw "Mac Flecknoe" i wneud hwyl ar ben dramodydd arall. Ystyrir "Absalom and Achitophel" (1681) yn ei gampwaith, cerdd arabus o gwpledi arwrol sy'n adrodd hanes y Cynllwyn Pabaidd yn erbyn Siarl II. Fe gyfansoddodd hefyd sawl awdl, gan gynnwys "To Mrs Anne Killegrew" ac "Alexander's Feast".

Athroniaeth, gwleidyddiaeth a gwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Yn nechrau'r 17g, prif athronydd Lloegr oedd Francis Bacon (1561–1626), arloeswr y dull gwyddonol. Ysgrifennodd y mwyafrif o'i draethodau athronyddol a gwyddonol yn Lladin, ac roedd hefyd yn ysgrifwr Saesneg o nod. Yng nghanol y ganrif, cyfnod o wrthdaro gwleidyddol, crefyddol, a milwrol, cyhoeddodd Thomas Hobbes (1588–1679) ei lyfr Leviathan (1651), un o glasuron athroniaeth wleidyddol. Dyma hefyd oedd cyfnod y Chwyldro Gwyddonol, ac ymhlith y gwyddonwyr modern cynharaf yn Lloegr oedd Isaac Newton (1642–1726), Robert Hooke (1635–1703), a'r Eingl-Wyddel Robert Boyle (1627–91). Dywed yn aml taw cyhoeddi Philosophiæ Naturalis Principia Mathematica gan Newton yn 1687 oedd man cychwyn yr Oleuedigaeth. Prif athronydd Lloegr yn niwedd y ganrif oedd John Locke (1632–1704), y cyntaf o'r empiryddion a sefydlwr rhyddfrydiaeth glasurol. Mae ei waith yn ymwneud ag athroniaeth y meddwl ac epistemoleg (An Essay Concerning Human Understanding, 1689) yn ogystal â gwleidyddiaeth (Two Treatises of Government, 1689).

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Casgliadau a blodeugerddi[golygu | golygu cod]

  • Robert Cummings (gol.), Seventeenth-Century Poetry: An Annotated Anthology (Rhydychen: Blackwell, 2000).
  • Elspeth Graham, Hilary Hinds, Elaine Hobby, ac Helen Wilcox (goln.), Her Own Life: Autobiographical Writings by Seventeenth-Century Englishwomen (Llundain: Routledge, 1989).
  • Alan Rudrum, Joseph Black, ac Holly Faith Nelson (goln.), The Broadview Anthology of Seventeenth-Century Verse and Prose (Efrog Newydd, Broadview Press, 2000).

Astudiaethau a beirniadaeth[golygu | golygu cod]

  • Reid Barbour, Literature and Religious Culture in Seventeenth-Century England (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2002).
  • Thomas N. Corns, A History of Seventeenth-Century English Literature (Rhydychen: Blackwell, 2007).
  • G. Blakemore Evans, Elizabethan-Jacobean Drama: The Theatre in Its Time (Efrog Newydd: New Amsterdam, 1988).
  • Achsah Guibbory, The Map of Time: Seventeenth-century English Literature and Ideas of Pattern in History (Urbana, Illinois: University of Illinois Press, 1986).
  • Edwin Greenlaw, The New Science and English Literature in the Seventeenth Century (Baltimore, Maryland: Johns Hopkins Alumni Association. 1925).
  • Achsah Guibbory, Ceremony and Community from Herbert to Milton: Literature, Religion, and Cultural Conflict in Seventeenth-Century England (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1998).
  • Elizabeth D. Harvey (gol.), Soliciting Interpretation : Literary Theory and Seventeenth-century English Poetry (Chicago: University of Chicago Press, 1990).
  • Alexander Leggatt, Jacobean Public Theatre (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 1992).
  • Seth Lobis, The Virtue of Sympathy: Magic, Philosophy, and Literature in Seventeenth-Century England (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2014).
  • Louis L. Martz, The Poetry of Meditation: A Study in English Religious Literature of the Seventeenth Century (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1954).
  • Lucy Munro, Children of the Queen's Revels: A Jacobean Theatre Repertory (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2005).
  • Anna K. Nardo, The Ludic Self in Seventeenth-Century English Literature (Albany, Efrog Newydd: State University of New York Press, 1991).
  • George Parfitt, English Poetry of the Seventeenth Century (Llundain: Longman, 1992).
  • Graham Parry, The Seventeenth Century: The Intellectual Context of English Literature, 1603-1700 (Llundain: Longman, 1989).
  • Nancy Rosenfeld, The Human Satan in Seventeenth-Century English Literature: From Milton to Rochester (Aldershot, Hampshire: Ashgate, 2008).
  • Kevin Sharpe a Steven N. Zwicker, Politics of Discourse: The Literature and History of Seventeenth-century England (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1987).
  • Lauren Shohet, Reading Masques: The English Masque and Public Culture in the Seventeenth Century (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2010).
  • Rachel Trubowitz, Nation and Nurture in Seventeenth-Century English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2012).