John Locke

Oddi ar Wicipedia
John Locke
Portread o John Locke (1697) gan Godfrey Kneller (1646–1723)
Ganwyd29 Awst 1632 Edit this on Wikidata
Wrington Edit this on Wikidata
Bu farw28 Hydref 1704 Edit this on Wikidata
High Laver Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, gwleidydd, meddyg, ysgrifennwr, gwyddonydd, athronydd y gyfraith Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amAn Essay Concerning Human Understanding, Two Treatises of Government, A Letter Concerning Toleration, Some Thoughts Concerning Education, Of the Conduct of the Understanding, The prince and the cobbler Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadThomas Hobbes, René Descartes, Hugo Grotius, Robert Filmer, Samuel von Pufendorf, Thomas Sydenham, Anthony Ashley Cooper, Damaris Cudworth Masham Edit this on Wikidata
MudiadEmpiriaeth Edit this on Wikidata
TadJohn Locke Edit this on Wikidata
MamAgnes Keene Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd gwleidyddol o Sais oedd John Locke (29 Awst 163228 Hydref 1704). Bu fyw drwy'r Pla Du a than mawr Llundain; dyma gyfnod o arbrofi yn y system lled-ddemocrataidd frenhinol a seneddol yn Lloegr. Y prif themâu a drafodir yn ei weithiau ydy cymdeithas, hawliau ac eiddo. Roedd llawer o'i syniadau wedi bod yn ddylanwad cryf ar gyfraith yr Unol Daleithiau; roedd yn amddiffyn coloneiddio.

Syniadau Locke[golygu | golygu cod]

Hawliau[golygu | golygu cod]

Cred Locke fod yna hawliau naturiol mewn grym; cred fod y cyfreithiau naturiol yma yn deillio gan Dduw. Noda fod pawb yn eiddo i Dduw a phawb a'r gallu i resymu. Felly gan ein bod ni gyd yn hafal (h.y. yn eiddo i Dduw) ac ein bod ni'n medru rhesymu noda Locke os ydym ni'n mwynhau yr hawliau naturiol fe ddylem ni barchu fod eraill eisiau'r run hawliau hefyd. Noda fod hawl gan ddyn amddiffyn ei hun a chosbi pobl sy'n torri'r cyfreithiau/hawliau naturiol

Awdurdod[golygu | golygu cod]

Mae Locke yn nodi fod ei ymdriniaeth ef yn wahanol i un Hobbes, ef sy'n trafod dyn yn y cyflwr naturiol tra bod Hobbes yn ei drafod mewn cyflwr o ryfel. Gwahaniaeth arall rhwng Lock a Hobbes ydy fod Locke yn credu fod hawl gwrthwynebu'r awdurdod. Cred Hobbes fod yr awdurdod yn absoliwt sofran, dim modd ei wrthwynebu. Ond cred Locke fod hawl ei wrthwynebu os yw'n methu yn ei dasg o warchod hawliau naturiol pobl.

Eiddo[golygu | golygu cod]

Credu fod y byd a'i ffrwythau i bawb yn gyffredin; ond mae rhoi gwaith mewn i rywbeth yn ei wneud yn eiddo i chi. E.e. dwr yn y ffynnon yn eiddo i bawb - dwr wedi ei godi o'r ffynnon yn eiddo i'r dyn a'i gododd o’r ffynnon. Defnyddia Locke y theori yma yn ei amddiffyniad o goloneiddio. Er fod y tir yn eiddo i bawb, gan gynnwys y brodorion; oherwydd mae llafur a thechnoleg y gorllewinwyr sydd wedi cloddio am y mwynau ayyb.. Y gorllewinwyr sydd yn berchen ar yr eiddo oherwydd nhw gwnaeth y llafur.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Prif weithiau[golygu | golygu cod]

Gwaith na chyhoeddwyd yn ystod ei oes[golygu | golygu cod]

  • (1660) First Tract on Government (neu yr English Tract)
  • (c.1662) Second Tract on Government (neu y Latin Tract)
  • (1664) Questions Concerning the Law of Nature (Testun Lladin, gyda chyfieithiad Saesneg yn, Robert Horwitz et. al. (gol.), John Locke, Questions Concerning the Law of Nature, Ithaca: Cornell University Press, 1990).
  • (1667) Essay Concerning Toleration
  • (1706) Of the Conduct of the Understanding
  • (1707) A Paraphrase and Notes on the Epistles of St. Paul

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]