Hugo Grotius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread o Hugo Grotius gan Michiel Jansz van Mierevelt (1631).

Cyfreithegwr, athronydd, diwinydd, diplomydd, apolegwr Cristnogol, dramodydd a bardd o Iseldirwr oedd Hugo Grotius (/ˈɡrʃəs/; 10 Ebrill 1583 – 28 Awst 1645). Roedd ei lyfr De Jure Belli ac Pacis (1625; "Deddf Heddwch a Rhyfel") yn hanfodol wrth ddatblygu "cyfreithiau gwledydd" ar sail deddf natur. Ynghŷd â'i ragflaenwyr Francisco de Vitoria ac Alberico Gentili, Grotius yw un o "dadau'r gyfraith ryngwladol".

Adnabyddir amlaf gan ffurf Ladin ei enw, ond fe'i elwir yn Iseldireg yn Huig de Groot (Ynganiad Iseldireg: [ˈɦœyɣ də ɣroːt]) neu Hugo de Groot (Ynganiad Iseldireg: [ˈɦyɣoː də ɣroːt]). Disgleiriodd ei feddwl yn gyntaf yn ei arddegau. Cafodd ei garcharu am ei ran yn nadleuon Calfinaidd y Weriniaeth Iseldiraidd, a dihangodd mewn cist o lyfrau. Ysgrifennodd y mwyafrif o'i weithiau tra'n alltud yn Ffrainc.

Nid Grotius oedd y cyntaf i lunio athrawiaeth y gymdeithas ryngwladol, ond ef oedd y meddyliwr boreuaf i ddiffinio cysyniad y system wladwriaethau, dan lywodraeth cyd-ddiogelwch a diplomyddiaeth yn hytrach na grym a rhyfela. Ysgrifennai'r ysgolhaig cysylltiadau rhyngwladol Hedley Bull: "Diriaethai syniad y gymdeithas ryngwladol, yr hwn a ddwyn ger bron gan Grotius, gan Heddwch Westffalia, a gellir ystyried Grotius yn dad deallusol y cytundeb hwn, sef y cytundeb heddwch cyffredinol cyntaf yn yr oes fodern."[1]

Yn ogystal â'i ddylanwad arloesol ar gyfraith ryngwladol, gwelir effaith ei ddiwinyddiaeth ar fudiadau diweddarach megis Methodistiaeth a Phentecostiaeth. Ystyrir hefyd yn "ddiwinydd economaidd" am iddo osod sylfaen i fasnach rydd.[2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Annotationes ad Vetus Testamentum, 1732

Ganwyd yn Delft, Holand, dwy mlynedd wedi sefydlu'r Weriniaeth Iseldiraidd, i deulu urddasol a chyfoethog. Bwrgfeistr Delft a churadur Prifysgol Leiden oedd ei dad. Derbyniodd addysg dda, a dangosodd yn gynnar iawn arwyddion o dalent a medrusrwydd anghyffredin. Cyfansoddodd marwnadau Lladin yn 8 oed, a chafodd ei dderbyn yn fyfyriwr y celfyddydau ym Mhrifysgol Leiden yn 11 oed. Astudiodd o dan y dyneiddiwr Joseph Scaliger a fe ddysgodd gwybodaeth eang ar faes ieitheg. Teithiodd Grotius gyda'r gwladweinydd Johann van Oldenbarnevelt i Ffrainc ym 1598. Cyfarfu â'r Brenin Harri IV, a alwodd yr Holandwr ifanc yn "wyrth yr Isalmaen". Adeg hon, ymddangosodd Grotius i'r byd fel dadleuwr cyfreithiol ac fel awdur dysgedig, ac yntau dim ond yn 15 oed. Ysgrifennodd chwe ymson ar wleidyddiaeth, a gyhoeddid dan y teitl Pontifex Romanus (1598).

Y flwyddyn ganlynol ymsefydlodd yn Den Haag i drin y gyfraith, ac arhosodd am gyfnod gyda'r pregethwr a diwinydd Johannes Uyttenbogaert. Ar gais Ystadau Holand, sef y llywodraeth daleithiol, ysgrifennodd Grotius hanes o wrthryfel y Taleithiau Unedig yn erbyn Sbaen (1559–1609), yn arddull yr hanesydd Tacitus. Er iddo orffen y mwyafrif o'r gwaith erbyn 1612, ni chyhoeddid yr hanes tan 1657, ar ôl ei farwolaeth, Annales et Historiae de Rebus Belgicis ("Cronicl ac Hanes Gwrthryfeloedd y Gwledydd Isel").

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Penodwyd ef yn ddadleuwr cyffredinol (advocaat-fiscaal) i daleithiau Holand, Zeeland, a Gorllewin Ffrisia ym 1607. Y flwyddyn ganlunol, priododd Maria van Reigersberch, merch i fwrgfeistr Veere. Adeg hon, ysgrifennodd Grotius lyfr ar bwnc deddf ysbail, De Jure Praedae, ar gais y Vereenigde Oost-Indische Compagnie. Ymdrech oedd hon i gyfiawnháu cipio llong Bortiwgalaidd gan lyngesydd Iseldiraidd ym 1604, mewn gwrthwynebiad i fonopoli'r Sbaenwyr a'r Portiwgeaid ar fasnach yn India'r Dwyrain. Ni chyhoeddai'r gwaith cyflawn yn ystod ei fywyd, ond ymddangosodd pennawd o dan y teitl Mare Liberum ("Rhyddid y Moroedd") ym 1609 a chyrhaeddodd nifer fawr o ddarllenwyr. Yn y testun hwn, dadleuodd yr awdur dros hawl i bob gwlad fasnachu ar y môr gan atgyfnerthu safle'r Iseldiroedd yn nhrafodaethau'r Cadoediad Deuddeng Mlynedd gyda Sbaen. Penodwyd Grotius hefyd yn aelod o'r teyrn-gynghor dros yr Ystadau Cyffredinol, ac yn llys-negesydd i Loegr.

Y ddadl Arminaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd yma roedd ei fywyd wedi bod yn ddisglair a llwyddiannus iawn, ond yn awr daeth yn dywyll a phrofedigaethus, oherwydd y rhan amlwg a gymerodd yn y ddadl Arminaidd yn fuan wedi marwolaeth James Arminius ym 1609. Rhennir yr ymgecru rhwng yr Haerwyr neu'r Wrthdystwyr, carfan o lywodraethwyr dosbarth-uchel yn arddel Protestaniaeth oddefgar Arminius, a'r Calfiniaid traddodiadol neu'r Gomarwyr, dilynwyr y diwinydd Franciscus Gomarus a chanddynt gefnogaeth y gweinidogion a'r werin. Ym 1613, penodwyd Grotius yn brif swyddog Rotterdam, a thra yn y swydd hon cyhoeddodd ei hun yn bleidiol i'r gwleidydd Barneveldt ac efe a roddodd ei gefnogaeth iddo ef ac i achos yr Arminiaid trwy ei ddylanwad a nerth ei ysgrifbin. Trodd yr ymgecru crefyddol yn frwydr dros reolaeth y wlad, yr Haerwyr dan arweiniad Barnevelt a'r Gomarwyr dan arweiniad y Tywysog Maurice.

Methodd y ddwy blaid gytuno ac ym 1618 cipiodd y Tywysog Maurice rym. Yn Synod Dort, cafodd dysgeidiaeth yr Arminiaid ei chondemnio'n swyddogol gan y sefydliad eglwysig Protestanaidd a chafodd nifer ohonynt eu carcharu mewn canlyniad. Cyhuddwyd Barneveldt o deyrnfradwriaeth a ddienyddwyd ar y crogbren. Danfonwyd Grotius ef a'i wraig i amddiffynfa Louvestein, i fod yn garcharorion am eu hoes; a bu agos iddo ef gael ei ddedfrydu i ddioddef tynged Barneveldt. Tra yn y carchar, ysgrifennodd ei draethawd ar "Wirionedd y Grefydd Gristnogol". Ym 1621, llwyddodd i ddianc o'r amddiffynfa trwy gyfrwyader ei wraig, yr hon oedd wedi cael rhyddid i fynd allan o'r carchar ddwywaith yr wythnos. Roedd Grotius yn barhaus yn derbyn llyfrau, ynghyd â llieiniau at wasanaeth ei gorff, y rhai a gludid iddo mewn cist i mewn ac allan o'r amddiffynfa. Am beth amser, chwilid y gist hon yn fanwl gan y gwyliedyddion; ond gan nad oeddynt yn cael di ynddi heblaw llyfrau a llieiniau, hwy a roisant heibio y gorchwyl o'i chwilio. Fe sylwodd gwraig Grotius ar ddifaterwch y gwyliedyddion; ac ar un diwrnod, hi a benderfynodd berswadio ei gŵr i fyned i'r gist, fel, pan y symudid hi allan o'r carchar, y cawsai yntau gyfleusdra i ffoi am ei ryddid. Gosododd Grotius ei hun yn y gist, ac felly y llwyddodd i ymryddhau o'i gaethiwed. Gweithiodd ei ffordd trwy Antwerp i Ffrainc, lle y cyfarfyddwyd ef gan ei wraig ymhen ychydig fisoed wedi hynny. Cyrhaeddant Baris a chafodd Grotius dderbyniad croesawus gan Louis XIII, yr hwn a roddodd iddo flwydd-dal bychan.

Alltudiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Trigant Grotius a'i wraig yn Ffrainc am ddeng mlynedd, hyd 1631. Yn ystod ei arosiad yn y wlad honno, enillodd Grotius sylw cyffredinol, a pherchid ef gan lawer fel dyn o feddwl mawr, fel athronydd galluog, diwinydd dwfn a chraffus, hanesydd dysgedig, a chyfreithiwr gwybodus. Cyhoeddid ei gampwaith ar bwnc y gyfraith, De Jure Belli ac Pacis, ym 1625. Yn sgil ei brofiadau yn yr Iseldiroedd a rhyfeloedd eraill yn Ewrop, yn enwedig y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, fe ddatblygodd ar ei syniadau yn De Jure Praedae i lunio damcaniaeth gyfreithegol â'r nod o gadw'r heddwch ymhlith gwledydd y Gristionogaeth. Ar sail cyfraith Rufain ac ysgrifau'r Stoiciaid, gosododd Grotius y ddeddf naturiol yn ganolog i'w ddamcaniaeth. Lluniodd strwythur amlhaenog o normau crefyddol, moesol, a gwleidyddol i geisio atal rhyfel a chyfyngu ar drais pan fo brwydro yn anochel. Ysgrifennai yn nhraddodiad y rhyfel cyfiawn, a datblygodd hefyd damcaniaeth ar drosedd a chosb ar y lefel ryngwladol.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd Grotius i wlad ei enedigaeth ym 1631, gan ymddiried ei hun i ffafr ac ewyllys da Frederic Henry, Tywysog Orange, yr hwn oedd wedi ysgrifennu ato lythyr o gydymdeimlad. Trwy ddylanwad ei elynion, alltudiwyd ef o'i wlad a rhybuddiwyd ef i beidio byth a sangu ei thir mwy. Aeth i Hambwrg ym 1632, ac ym 1634 cafodd ei gynnig swydd gan ganghellor Sweden, Axel, Cownt Oxenstierna. Derbyniodd ddinasyddiaeth Swedaidd a threuliodd deng mlynedd fel llysgennad Sweden i Ffrainc. Trigai ym Mharis unwaith eto, ac yno fe weithiodd ar hanes y Gothiaid, y Fandaliaid a'r Lombardiaid (Historia Gotthorum, Vandalorum et Langobardorum, 1636–37). Cyhoeddodd sawl testun ar bwnc aduno'r Eglwys Gristnogol, ac ychwanegodd at ei waith ar gyfraith gwledydd.

Daeth ei lysgenhadaeth i ben ym 1644, a'r flwyddyn ganlynol fe deithiodd i Sweden i ymweld â'r Frenhines Christina. Gadawodd Stockholm am Lübeck ar 12 Awst 1645, ond fe ddrylliwyd y llong ger arfordir Pomerania a chafodd ei olchi i'r llan ger Rostock. Bu farw yno o flinder ei brofiad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hedley Bull ac Adam Roberts. Hugo Grotius and International Relations (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1990). ISBN 0-19-825569-1
    Dyfyniad gwreiddiol: "The idea of international society which Grotius propounded was given concrete expression in the Peace of Westphalia, and Grotius may be considered the intellectual father of this first general peace settlement of modern times."
  2. Johannes Thumfart. "Economic Theology: On Grotius’s Mare Liberum and Vitoria’s De Indis, Following Agamben and Schmitt", Grotiana 30 (2009), tt. 65–87.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.