Thomas Hobbes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Hobbes

Roedd Thomas Hobbes (5 Ebrill, 1588 - 4 Rhagfyr, 1679), yn byw yn Lloegr yn ystod cyfnod y Rhyfel Cartref. Sefydlodd ei lyfr Leviathan 1651 seiliau y rhan fwyaf o athroniaeth wleidyddol y Gorllewin.Yn ogystal â'r Lefiathan un o'i weithiau eraill oedd yn trafod yr un themau oedd De Cive (Y Dinesydd). Mae gwaith Hobbes yn trafod natur dyn a'r angen am lywodraeth i'w reoli.

Syniadau Hobbes ar Ddyn[golygu]

Yn ôl Hobbes ein teimladau/nwydau ni sy'n ein rheoli, mae chwantau yn codi o'n natur ni. Casgliad pennaf Hobbes am ein natur ydy ein bod ni yn gyfartal yn gorfforol. Yr hyn a olyga yw ei bod hi'n bosib i'r gwanaf o ddyn drechu'r cryfaf drwy fod yn gyfrwys neu drwy dwyllo. Cred fod pawb ar yr run raddfa yn y cyflwr naturiol, yn gorfforol ac yn ddeallusol. Does neb yn derbyn rhagoriaeth neb arall drostynt. Felly yn y cyflwr naturiol cred pawb y gallent lwyddo cystal ar llall. Dydy hyn ddim yn broblem ond os ydyn nhw eisiau run peth, gyda'r chwant ar yr un gwrthrych, mae ymryson yn siŵr o ddigwydd. Yn De Cive mae Hobbes yn dweud na thro pobl yn syth at drais ond mae'n rhybuddio y gallasech redeg fewn i rywun or-falch felly y dylech fod yn barod am ymryson bob amser.

Syniadau Hobbes am lywodraeth[golygu]

Oherwydd y natur ddynol a'r tensiynau rhwng dynion noda Hobbes fod angen y Lefiathan. Mae'r enw Lefiathan yn dod o Lyfr Job a llyfrau eraill yn y Beibl, lle sonnir am Lefiathan - anifail anhygoel o fawr a greuwyd gan Dduw i greu ofn ar bobl, yn enwedig y balch; cyfeirir at Lefiathan fel duw meidrol. Mae Lefiathan Hobbes yn dod i fodolaeth ar sail cytundeb. Cydnabod y bydd natur dyn yn drech arnom ni i gyd, a chytuno felly i greu bwystfil mawr i ofalu amdanom ni. Mae Lefiathan yn gytundeb i greu trydydd person sydd uwchlaw ni i gyd. Mae'r Lefiathan uwchlaw’r gyfraith, does dim modd dwyn y Lefiathan o flaen y gyfraith, does dim hawl beirniadu’r Lefiathan yn gyhoeddus a does dim rhaniad grym i ddigwydd, y Lefiathan yw'r sofran yn unig.