Robert Filmer
Robert Filmer | |
---|---|
![]() Portread o Syr Robert Filmer o 1650. | |
Ganwyd | 1588 ![]() Caint ![]() |
Bu farw | 26 Mai 1653 ![]() East Sutton ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, ysgrifennwr ![]() |
Adnabyddus am | Patriarcha ![]() |
Tad | Edward Filmer ![]() |
Mam | Elizabeth Argall ![]() |
Plant | Edward Filmer, Sir Robert Filmer, 1st Baronet ![]() |
Damcaniaethwr gwleidyddol o Sais yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr oedd Syr Robert Filmer (tua 1588 — 26 Mai 1653) sydd yn nodedig am amddiffyn dwyfol hawl brenhinoedd ac arddel ffurf absoliwtaidd ar frenhiniaeth.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, a Lincoln's Inn. Aeth Robert Filmer, ei frawd, a'i fab i lys y Brenin Siarl I, a fe'i urddwyd yn farchog. Yn ystod y rhyfel cartref cafodd ei gartref yn East Sutton, ger Middlestone, Caint, ei anrheithio gan y Seneddwyr, a charcharwyd Filmer am fod yn frenhinwr, er na erioed brwydrodd ar faes y gad dros achos y brenin.
Cyhoeddwyd ei draethodau gwleidyddol yn ystod cyfnod hwyr y rhyfeloedd cartref, rhwng 1648 a'i farwolaeth—yn East Sutton, oddeutu 65 oed—ym 1653.[1] Adargraffwyd y rheiny ym 1679 adeg Argyfwng y Gwahardd, a chyhoeddwyd ei brif waith, Patriarcha, am y tro cyntaf ym 1680. Byddai John Locke yn lladd ar ysgrifau Filmer wrth ymdrin â phwnc llywodraeth.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) Robert Filmer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Hydref 2022.