Coll Gwynfa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paentiad William Blake o Adda ac Efa (1808).

Cerdd hir ddiodl gan y llenor Seisnig John Milton yw Coll Gwynfa (Saesneg: Paradise Lost). Cyhoeddwyd yn gyntaf mewn 10 llyfr yn y flwyddyn 1667, ac yn yr ail argraffiad ym 1674 cafodd llyfrau 7 a 10 eu rhannu'n ddau.[1] Cyfansoddodd Milton gydgerdd, Adferiad Gwynfa (1671), sy'n adrodd hanes Temtiad Crist.

Stori'r arwrgerdd Feiblaidd hon yw cwymp dyn oddi wrth ras. Tynodd Milton ar nifer o dechnegau'r hen feirdd, megis Homeros a Fferyllt: dechreuad yng nghanol y stori, ymbil ar yr awen, strwythur 12-llyfr (megis yr Aenid), a ffurf epig y gerdd. Er yr arddulliau clasurol, Cristnogaeth yw pwnc a naws Coll Gwynfa. Gwrthododd Milton yr odl, gan ddefnyddio sain a sigl y geiriau i ganu'r gerdd.[1] Prif gymeriadau'r gerdd yw Duw, Lwsiffer (Satan), Adda, ac Efa. Un o nodau pwysig y gerdd yw'r portread teg o Satan.[1] Hanes Llyfr Genesis yw prif ffynhonnell y stori, ac mae ysgolheictod Milton a'i daliadau gweriniaethol yn argannu'r gwaith.[2] Mae'n bosib taw'r gerdd Lucifer (1654), sy'n adrodd stori'r frwydr rhwng yr angylion a Duw, gan yr Iseldirwr Joost van den Vondel a ysgogodd Milton i ysgrifennu Coll Gwynfa.[3]

Cafodd y gerdd ddylanwad sylweddol ar lên Lloegr, ac fe'i hystyrir yn un o gyfansoddiadau gwychaf barddoniaeth Saesneg. Y Bardd Llawryfog Dryden oedd un o'r cyfoedion cyntaf i ganmol campwaith Milton, drwy fynegi ei ddigalondid: "This man will cut us all out, and the ancients too".[4] Canrif yn hwyrach, clodforwyd perseinedd y gerdd gan y traethodwr Hazlitt.[2] Darluniodd William Blake a Gustave Doré argraffiadau yn y 19eg ganrif. Credodd y Rhamantwyr Blake a Shelley taw Satan oedd gwir arwr y gerdd, a dylid edmygu ei wrthryfel yn erbyn Gormesdeyrnas Nef.[1] Ysbrydolwyd nifer o gelfyddydweithiau gan Goll Gwynfa, gan gynnwys yr oratorio Die Schöpfung gan Hayden a'r gerdd Endymion gan Keats. Cyfieithwyd Coll Gwynfa i'r Gymraeg yn gyntaf gan William Owen Pughe a'i gyhoeddi ym 1819. Cyhoeddwyd cyfieithiad John Evans (I. D. Ffraid), eto dan yr enw Coll Gwynfa, ym 1865.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Paradise Lost. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Paradise Lost" yn The Oxford Companion to British History (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 13 Tachwedd 2016.
  3. (Saesneg) "Vondel, Joost van den" yn Columbia Encyclopedia (Gwasg Prifysgol Columbia). Adalwyd ar 31 Hydref 2016 ar Encyclopedia.com.
  4. (Saesneg) Anna Beer. Milton: Poet, Pamphleteer and Patriot (A& C Black, 2011).

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: