John Wilmot, 2il Iarll Rochester
John Wilmot, 2il Iarll Rochester | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Ebrill 1647 ![]() Ditchley ![]() |
Bu farw | 26 Gorffennaf 1680 ![]() Woodstock ![]() |
Man preswyl | Paris, Ditchley, Ditchley ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, dramodydd ![]() |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Tad | Henry Wilmot, 1st Earl of Rochester ![]() |
Mam | Anne St John, Countess of Rochester ![]() |
Priod | Elizabeth Wilmot, Countess of Rochester ![]() |
Plant | Charles Wilmot, 3rd Earl of Rochester, Anne Wilmot of Rochester, Lady Elizabeth Wilmot, Lady Malet Wilmot ![]() |
Bardd ac arglwydd o Sais oedd John Wilmot, 2il Iarll Rochester (1 Ebrill 1647 – 26 Gorffennaf 1680) sy'n nodedig fel llyswr ffraeth a bardd serch yn ystod Oes yr Adferiad ac un o arloeswyr y ddychangerdd Saesneg.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganwyd ar 1 Ebrill 1647 ym maenor Ditchley ger Charlbury, Swydd Rydychen. Etifeddodd deitl Iarll Rochester o ganlyniad i farwolaeth ei dad, Henry Wilmot, yn 1658. Derbyniodd ei radd meistr o Goleg Wadham, Rhydychen yn 1661.
Yn sgil yr Adferiad, daeth Rochester yn un o'r gwŷr ffraeth blaenaf yn llys y Brenin Siarl II, ac yn enwog am ei fercheta. Ymhlith ei gariadon oedd yr actores Elizabeth Barry a'r etifeddes Elizabeth Malet. Ymunodd Rochester â'r Llynges Frenhinol a gwasanaethodd yn yr ail ryfel ar y môr rhwng Teyrnas Lloegr a Gweriniaeth yr Iseldiroedd (1665–67). Priododd Elizabeth Malet yn 1667 a chafodd ei benodi'n fonheddwr y siambr wely gan y Brenin Siarl.[1]
Bu farw ar 26 Gorffennaf 1680 yn Woodstock, Swydd Rydychen, yn 33 oed, yn debyg o syffilis neu glefyd gwenerol arall.
Barddoniaeth[golygu | golygu cod]
Llên Lloegr yn yr 17eg ganrif |
---|
![]() |
Y ddrama yn Oes Iago |
Piwritaniaid |
Athroniaeth a'r gwyddorau |
|
Nodir cerddi Rochester am eu traserch, eu ffraethineb, ac am ddathlu pleserau'r cnawd. Ymhlith ei ddychangerddi mae "History of Insipids" (1676), sy'n lladd ar lywodraeth Siarl II, a “Maim’d Debauchee”.
Gweithiau eraill[golygu | golygu cod]
Ysgrifennodd Rochester hefyd un ddrama, Valentinian, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth, yn 1685. Dyma ymdrech ganddo i ail-sgwennu un o drasiedïau John Fletcher. Mae ei lythyrau at ei wraig ac at ei gyfail Henry Savile hefyd yn nodedig am eu rhyddiaith.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) John Wilmot, 2nd earl of Rochester. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Awst 2019.