John Bunyan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
John Bunyan
John Bunyan.jpg
Ganwyd 28 Tachwedd 1628 Edit this on Wikidata
Bedford Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Awst 1688 Edit this on Wikidata (59 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Alma mater Ysgol Bedford Edit this on Wikidata
Gwaith diwinydd, Awdur, pregethwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Taith y Pererin Edit this on Wikidata
Llofnod
JohnBunyanSignature.png

Awdur crefyddol o Sais oedd John Bunyan (28 Tachwedd, 1628 - 31 Awst, 1688). Roedd yn Biwritan argyhoeddedig. Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r alegori hir Taith y Pererin (The Pilgrim's Progress), un o'r llyfrau Cristnogol mwyaf dylanwadol erioed.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Bunyan yn Elstow ger Bedford, yn fab i dincer (trwsiwr offer metal domestig o bob math). Yn 1649 priododd ferch dlawd ac yn fuan wedyn dechreuodd gael cyfres o brofiadau crefyddol mewnol dwys a ddisgrifir yn ei gyfrol ddylanwadol Grace Abounding.

O 1653 ymlaen bu'n pregethu i gynulleidfaoedd Anghydffurfiol o gwmpas Bedford. Daeth i gysylltiad â George Fox, arweinydd y Crynwyr, ac ysgrifennodd draethawd yn ymosod ar gred yr enwad honno.

Ym 1660 cafodd Bunyan ei arestio mewn ffermdy ger Ampthill a threuliodd y ddeuddeg blynedd nesaf yn y carchar. Yno yr aeth ati i lenydda mewn difrif ac mae nifer o'i weithiau mawr yn dyddio i'r cyfnod hwnnw, yn cynnwys Grace Abounding (1666).

Dylanwad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gweithiau Bunyan wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn y 19g prin oedd y capelwyr na cheid copi o waith Bunyan yn eu cartref.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith Bunyan[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Some Gospel Truths Opened (1656)
  • A Vindication of Gospel Truths Opened (1657)
  • Profitable Meditations (1661)
  • I Will Pray With the Spirit (1663)
  • Christian Behaviour (1663)
  • The Holy City (1665)
  • The Resurrection of the Dead (1665)
  • Grace Abounding (1666)
  • Taith y Pererin (Rhan 1, 1678, 1679; Rhan 2, 1684)
  • Life and Death of Mr Badman (1680)
  • Holy War (1682)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]