George Fox
| George Fox | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | Gorffennaf 1624, 1624 Caerlŷr |
| Bu farw | 13 Ionawr 1691 Llundain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
| Galwedigaeth | diwinydd, ysgrifennwr, pregethwr |
| Priod | Margaret Fell |
| llofnod | |
Arweinydd crefyddol o Sais a sylfaenydd Crynwriaeth a Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion oedd George Fox (Gorffennaf 1624 - 13 Ionawr 1691). Fe'i ganwyd yn Fenny Drayton, Swydd Gaerlŷr, Lloegr.
Cafodd ei fagu yn Biwritan ond yn ddyn ifanc cafodd weledigaeth o'r "goleuni mewnol" a dechreuodd ymosod yn eiriol ar yr eglwys sefydledig a ffurfioldeb o bob math mewn crefydd. Dechreuodd bregethu yn 1647. Ni fedrai oddef offeiriaid o unrhyw fath, na milwyr a milwriaeth. Dioddefodd ef a'i ddilynwyr erledigaeth am flynyddoedd.
Ymwelodd â Chymru a'r Alban lle enillodd ddilynwyr newydd. Teithiodd yn ogystal i Jamaica, Barbados, America, Yr Iseldiroedd a'r Almaen. Ymhlith ei brif disgyblion oedd John ap John yng Nghymru, Robert Barclay a William Penn, sylfaenydd Pennsylvania a fu'n gartref i nifer fawr o Grynwyr alltud.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Journal (1874). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
