Crynwriaeth yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Ymwreiddiodd Crynwriaeth yng Nghymru ar ddechrau'r 1660au o dan genhadaeth Siôn ap Siôn. Er iddynt ostwng mewn niferoedd a dylanwad ar ôl yr 17g, mae Crynwyr Cymru wedi chwarae rhan fwy pwysig yn hanes Cymru nag y mae eu nifer yn awgrymu ac mae eu mudiad, Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion (Religious Society of Friends) yn dal yn weithgar heddiw.

Y Sais George Fox (1624-1691) a sefydlodd Crynwriaeth a Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion yn Lloegr. Un o'i ddisgyblion cynnar oedd y Bedyddiwr Rice Jones, Cymro yn byw yn Nottingham. Roedd y llenor Morgan Llwyd o Wynedd a'i gyd-Biwritan Vavasor Powell yn agored i neges y Cynwyr hefyd, a diau fod eu gwaith cenhadol ym Meirionnydd (Llwyd) a Maldwyn (Powell) yn gyfrifol am y ffaith mai yn yr ardaloedd hynny yn bennaf y dygodd Crynwriaeth ffrwyth yn ail hanner yr 17g.

Mae Crynwyr nodedig o'r cyfnod hwnnw yng Nghymru yn cynnwys Richard Davies o'r Cloddiau Cochion, Rowland Ellis ac Ellis Puw. Ymfudodd nifer o Grynwyr y wlad i dalaith newydd Pennsylvania ar ddiwedd y ganrif. Ar un adeg bu ganddynt y bwraid o sefydlu gwladfa Gymraeg yno a'i galw yn Gymru Newydd, ond er bod y Cymro Thomas Lloyd yn ddirprwy lywodraethwr dan William Penn ac yn gefnogol i'r syniad, ni wireddwyd y cynllun.

Gwanhaodd achos y Crynwyr yng Nghymru yn y 18g, er i gymdeithasau o Grynwyr dal i gyfarfod mewn rhai ardaloedd, yn bennaf yn y de-ddwyrain (e.e. Caerdydd, Castell-nedd ac Abertawe).

Cafwyd adfywiad yn y ganrif olynol. Roedd Crynwyr amlwg y cyfnod yn cynnwys Joseph Tregelles Price, brodor o Gernyw a symudodd i Gymru lle daeth yn berchennog Gwaith Haearn Abaty Nedd. Ysgrifennodd ei nai Elijah Waring fywgraffiad o Iolo Morgannwg.

Yn yr 20g bu gan y Crynwyr ran amlwg yn y mudiadau heddwch yng Nghymru. Troes y bardd Waldo Williams yn Grynwr a gwrthwynebodd dalu rhan o'i drethi mewn protest yn arbyn arfogi. Crynwr arall a fu'n weithgar yn y mudiadau heddwch oedd George M. Ll. Davies, cyfaill Tom Nefyn.

Mae hanes Crynwyr Cymru yn gefndir rhai o nofelau'r nofelydd Marion Eames.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Richard Jones, Crynwyr Bore Cymru (1931)
  • J. M. Rees, History of the Quakers in Wales (1925)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Diffiniad da o grynwyr a hanes George Fox http://www.british-civil-wars.co.uk/glossary/quakers.htm Archifwyd 2008-05-13 yn y Peiriant Wayback.