Siôn ap Siôn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Siôn ap Siôn
Ganwyd1625 Edit this on Wikidata
Rhiwabon Edit this on Wikidata
Bu farw16 Tachwedd 1697 Edit this on Wikidata
Stafford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata

Roedd Siôn ap Siôn neu John ap John (tua 1625 - 16 Tachwedd 1697) yn gennad dros y Crynwyr yng Nghymru.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Siôn ym Mhen-y-cefn, Rhiwabon, Sir Ddinbych, mae'n bosib mae Siôn ap Siôn oedd enw ei dad hefyd. Mae'n debyg ei fod wedi ei addysgu yn ysgol ramadeg Wrecsam a'i fod wedi dod o dan ddylanwad y piwritan Walter Cradock, oedd yn gwasanaethu fel ciwrad Wrecsam ym 1635.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod cyfnod Cromwell fel Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr, roedd Siôn yn gefnogol i blaid y Piwritaniaid a fu yn aelod o gynulleidfa Morgan Llwyd yn Wrecsam. Mae'n debyg ei fod wedi bod yn bregethwr Piwritanaidd a'i fod wedi e ddanfon gan Lwyd i Fiwmares yn y 1640au i fod yn bregethwr i'r garsiwn o filwyr seneddol oedd yno. Wedi clywed am Gymdeithas y Cyfeillion oedd yn cael ei arwain gan George Fox danfonodd Morgan Llwyd Siôn i Swydd Gaerhirfryn i gyfarfod a Fox ac i adrodd yn ôl am ei fudiad.[3] O ganlyniad i'r cyfarfod hwn cafodd Siôn ei argyhoeddi gan neges y Crynwyr. Trodd ei gefn ar Lwyd a Phiwritaniaeth a daeth yn bregethwr a chenhadwr nodedig i'r Crynwyr yng Nghymru.[4]

Sefydlodd Siôn ei gynulleidfa gyntaf o Grynwyr ym Mhen-y-cefn ym 1653. O 1654 ymlaen aeth ar nifer o deithiau pregethu ledled Cymru a'r gororau. Weithiau ar ei ben ei hun ac weithiau ar y cyd â Fox fel ei gyfieithydd. Cafodd ei garcharu ar sawl achlysur yn ystod y teithiau hyn. Cafodd lwyddiant mawr fel cennad gan sefydlu cymunedau sylweddol o Grynwyr yn Siroedd Morgannwg, Penfro, Trefaldwyn, Meirionnydd, Dinbych a'r Fflint.[5]

O 1667 bu'n allweddol wrth drefnu cyfarfodydd misol, chwarterol a blynyddol Cymreig a alluogodd y gymdeithas i oroesi a ffynnu, yn enwedig ar adegau o erledigaeth neu pan geisiodd llawer o Grynwyr y wlad loches yn America. Ym 1681 prynodd Siôn ap Siôn a Thomas Wynne, barbwr-llawfeddyg y Crynwyr o Gaerwys, 5000 erw yn Pennsylvania am swm cychwynnol o £ 100 gyda'r bwriad o gynorthwyo Cyfeillion a oedd yn barod i ymfudo. Ef, felly, oedd 'tad y "Parth Cymreig" yn Pennsylvania.

Ym 1683 cyhoeddodd John Tystiolaeth o Gariad ac Ewyllys Da - cyfieithiad o Testimony of Love and Good Will (1680) gan John Songhurst [6] oedd yn galw ar Grynwyr i fod yn deyrngar i'r gwirionedd a'r goleuni. Mynychodd hefyd lawer o gyfarfodydd blynyddol Cymru a chynhaliodd gyfarfod blynyddol 1693 yn ei gartref ei hun.[7]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1663 priododd Siôn â Catherine Edwards, gweddw Dafydd ab Edward, Plas Efa, Trefor a bu'n ariannu ei genhadaeth o incwm yr ystâd a rhyddfreiniau eraill oedd ganddo yn Llangollen a Rhyddallt.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi marwolaeth ei wraig ym 1695 aeth Siôn i fyw gyda Pheobe ei ferch a John Mellor ei fab yng nghyfraith yn Whitehough Manor, Ipstones, Swydd Stafford. Yno bu farw ym 1697, claddwyd ei weddillion ym mynwent blwyf Basford gerllaw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "JOHN ap JOHN (1625? - 1697) — Apostol y Crynwyr yng Nghymru | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-21.
  2. "John ap John (c. 1625–1697), Quaker leader". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/61973. Cyrchwyd 2020-10-21.
  3. "Y Crynwyr – Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion". Addoldai Cymru. Cyrchwyd 2020-10-21.
  4. "Crynwyr Cymru". www.westkentquakers.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-23. Cyrchwyd 2020-10-21.
  5. Levick, James J. (1893). "The Early Welsh Quakers and Their Emigration to Pennsylvania". The Pennsylvania Magazine of History and Biography 17 (4): 385–413. ISSN 0031-4587. https://www.jstor.org/stable/20083557.
  6. The Journal of the Friends' Historical Society 1903  tud. 66
  7. William Gregory Norris, Norman Penney (1907). John Ap John and Early Records of Friends in Wales. Headley Brothers.