Marion Eames

Oddi ar Wicipedia
Marion Eames
Ganwyd5 Chwefror 1921 Edit this on Wikidata
Penbedw Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 2007 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Dr Williams Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, llyfrgellydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Awdur nifer o nofelau hanesyddol Cymraeg oedd Marion Eames (5 Chwefror 19213 Ebrill 2007).

Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd i rieni Cymreig, ym Mhenbedw, Lloegr, ond fe'i magwyd yn Nolgellau, Meirionnydd er yn 4 oed. Dywedodd yn ddiweddarach mai ychydig o Gymraeg oedd ganddi pan symudodd i Ddolgellau. Ni allodd droi at siarad Cymraeg yn rhugl nes iddi symud i Aberystwyth am gyfnod o waith. Roedd hi wedi gadael Ysgol Dr Williams, Dolgellau yn 16 oed. Cafodd swydd yn Llyfrgell y Sir, Dolgellau. Yno bu raid iddi ddarllen llyfrau Cymraeg, a hynny a barodd iddi werthfawrogi llenyddiaeth Cymru ac i ymfalchïo yn ei Chymreictod. Penderfynodd ei bod am fod yn rhugl yn y Gymraeg. Cafodd y cyfle i wneud hynny pan symudodd i weithio am gyfnod o 2 flynedd fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bwrodd ati i ymarfer siarad Cymraeg gyda'u ffrindiau newydd yno gan gynnwys ar aelwyd yr Urdd. Magodd ddigon o hyder i ddal ati i siarad Cymraeg pan ddychwelodd i weithio yn llyfrgell Dolgellau eto, a hynny yn wyneb rhagfarn ei chydnabod yn Nolgellau oedd wedi arfer meddwl amdani fel Saesnes yn hytrach na Chymraes.

Roedd Marion Eames wedi bod yn ysgrifennu straeon byrion yn Saesneg ers dyddiau ysgol. Wedi dychwelyd i Ddolgellau dechreuodd ysgrifennu erthyglau yn Saesneg a Chymraeg i bapurau Plaid Cymru, a daeth yn drefnydd rhanbarthol ar gyfer Plaid Cymru. Cafodd swydd golygydd y papur wythnosol lleol, Y Dydd ond, gan gymaint oedd pwysau'r gwaith arni, bu raid iddi roi'r gorau iddi, gan beidio â gweithio o gwbl am gyfnod. Y pryd hynny fe ail-daniwyd ei diddordeb mewn cerddoriaeth. Enillodd ar y ddeuawd cerdd dant yn Eisteddfodau Cenedlaethol Caerffili (1950) ac Aberystwyth (1952), ac enillodd ar ganu i hunangyfeiliant y delyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni (1957). Gyda chymorth grant fach aeth i astudio'r piano a'r delyn yng Ngholeg Cerdd Guildhall yn Llundain, gyda'r bwriad o ddychwelyd i Ddolgellau yn athrawes cerddoriaeth. Ond tra yn Llundain cyfarfu â'r newyddiadurwr Griffith Williams a'i briodi yn 1955. Bu'n gweithio i'r cylchgrawn Home & Country cyn i'r ddau ohonynt achub cyfle i ddychwelyd i Gymru, gan symud i Forgannwg lle y bu Marion yn gynhyrchydd radio i'r BBC yng Nghaerdydd hyd nes iddi ymddeol ym 1980.

Clawr Y Stafell Ddirgel

Parhai Marion Eames i ysgrifennu, gan gynnwys bod yn rhan o griw ysgrifenwyr cynnar Pobol y Cwm. Cafodd afael ar ddeunydd crai ei nofel gyntaf, Y Stafell Ddirgel, yn yr erthygl 'Crynwyr Cymreig Ardaloedd Dolgellau' a ymddangosodd mewn cyfrol o'r Geninen yn 1889. Roedd darllen yr erthygl eisoes wedi ei hysgogi i ysgrifennu stori fer ar gyfer cystadleuaeth yn Y Cymro, a hynny cyn iddi fynd i Lundain. Cyhoeddwyd Y Stafell Ddirgel ym 1969, a'i derbyn yn frwdfrydig gan y beirniaid llenyddol. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion i gyd ynghyd â nofelau ar gyfer plant a rhai gweithiau eraill.

Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu deialog, a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr.[1] Addaswyd Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon dramau teledu Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfrol deyrnged gan Richard R. Evans

Gwaith Marion Eames[golygu | golygu cod]

Nofelau ar gyfer oedolion[golygu | golygu cod]

Ar gyfer plant[golygu | golygu cod]

  • Sionyn a Siarli (1977)
  • Sionyn a Siarli a'r Bws Hud
  • Duwies y Llyn yng Nghyfres Cled (2000)
  • Baner Beca (2004) – am derfysgoedd Beca

Arall[golygu | golygu cod]

  • A Private Language? (1997) – yn seiliedig ar gyfres o ddarlithoedd ar lenyddiaeth Gymraeg a thraddododd i fewnfudwyr i Wynedd, ar gyfer y Workers' Educational Association.[2]

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • Richard E Evans, Marion Eames yn y gyfres Llên y Llenor (Gwasg Pantycelyn, 2003)
  • Branwen Jarvis, 'Pam Nofel Hanesyddol?' yn y gyfrol Rhyddid y Nofel, gol. Gerwyn Williams

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Prif ffynhonnell – Portread – Marion Eames, cynhyrchiad teledu 'Y Bont' ar gyfer S4C (1998)
  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986).
  2. "The Independent (6 Ebrill 2007)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-01. Cyrchwyd 2007-05-20.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]