Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1952 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Aberystwyth |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1952 yn Aberystwyth, Sir Ceredigion.
| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Dwylo | "Caergai" | John Evans |
| Y Goron | Y Creadur neu unrhyw chwedl Gymreig | - | Neb yn deilwng |
| Y Fedal Ryddiaith | Cyfrol o Ryddiaith: Cyfrinachau Natur | "Daedalus" | O.E. Roberts |
| Y Rhuban Glas | Richard Henry Rees | ||
| Tlws y Ddrama | Brwydrau Cudd | "Llwynderw" | Gwynne D. Evans |
Richard Henry Rees oedd y cyntaf erioed i ennill y Rhuban Glas ddwywaith: yma pan ganodd Y Dymestl ac ym Mhwllheli, dair blynedd yn ddiweddarach.
Drama
[golygu | golygu cod]Daeth 12 cwmni i'r gystadleuaeth "Perfformio unrhyw ddrama hir yn Gymraeg na bu ym mhrawf terfynol Eisteddfod Genedlaethol yn 1949-1951". Y beirniaid oedd Mary Lewis, D. Haydn Davies a Raymond Edwards.[1] "Gellir dywedyd bod gwaith y goreuon eleni yn fwy graenus ac yn uwch ei safon nag a welsom ers llawer blwyddyn, ac yr oedd yn amheuthun gweld yr actor a'r cynhyrchydd [cyfarwyddwr] yn y cwmnïau hyn yn cymryd y gwaith oddifrif. Cymry ydynt sydd wedi magu cydwybod at gelfyddyd y ddrama."[1]
- Cwmni Rhosllannerchrugog - Amlyn ac Amig gan Saunders Lewis
- Cwmni Rhuthin - Y Ddeuddyn Hyn gan Islwyn Williams
- Cwmni'r Mynydd Mawr - Lil'r Gwendraeth gan Gwynne Evans
- Cwmni Penllergaer - Awel Dro gan D. Mathew Williams
- Cwmni Resolfen - Arian Sychion gan Ronald Gow cyf. O Rees Owen.
- Chwaraewyr Moss, Maerdy - Llygad y Geiniog gan Louis D'Alton cyf. D. J. Thomas
- Cwmni Plas Pentir, Bangor - Deufor Gyfarfod gan J.O. Francis cyf. Magdalen Morgan
- Cwmni Caergybi - Yr Wylan gan Tchechov cyf. T. Hudson Williams.
- Cwmni Abergele - Dwy Fran Ddu gan Eynon Evans cyf. John Ellis Williams
- Cwmni Walthamstow, Llundain - Arian Sychion gan Ronald Gow cyf. O Rees Owen.
- Cwmni Ceredigion, Llundain - Llaeth a Mêl gan Byron Jones.
- Chwaryddion y Gwter Fawr - Llygad y Geiniog gan Louis D'Alton cyf. D. J. Thomas.
Chwarewyr Moss a Chwaryddion y Gwter Fawr oedd y ddau gwmni i gyrraedd y rownd derfynol yn ystod yr Ŵyl.[1]

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Aberystwyth