Urdd Gobaith Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Urdd Gobaith Cymru

Logo'r Urdd.png

Aelodaeth55,000
Prif WeithredwrSian Lewis
Sefydlwyd1922
SefydlyddSyr Ifan ab Owen Edwards
Gwefanhttp://urdd.cymru

Mudiad ieuenctid Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru, â dros 55,000 o aelodau[1] rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Fe'i sefydlwyd yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.[2] Mae’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.

Mae Urdd Gobaith Cymru hefyd yn cynnal gwersylloedd ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nglanllyn ger Y Bala, yn Llangrannog, Ceredigion ac ym Mhae Caerdydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Yn flynyddol cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop[3]. Fe'i trefnir gan Urdd Gobaith Cymru a hynny yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau gyda Gŵyl y Banc ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin, a hynny yn y Gogledd ac yn y De am yn ail. Mae'n ŵyl uniaith Gymraeg.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Logo gwreiddiol yr Urdd

Cafodd Urdd Gobaith Cymru ei sefydlu yn 1922, ac mae wedi datblygu yn barhaus ers hynny. Yn rhifyn mis Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ meddai Syr Ifan ab Owen Edwards, ‘Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt.’ 

Apeliodd ar blant Cymru i ymuno a mudiad newydd i gynnig cyfleoedd trwy’r Gymraeg, ac o ganlyniad i hynny, sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru. Dros 90 mlynedd yn ddiweddarach, mae gan Urdd Gobaith Cymru, sef prif fudiad ieuenctid Cymru, dros  55,000 o aelodau sy’n perthyn i dros 900 o ganghennau sy’n cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau. Cyflawnir y gwaith gyda chymorth 260 o aelodau o staff a 10,000 o wirfoddolwyr. Prif Weithredwr presennol Urdd Gobaith Cymru yw Sian Lewis.

Cred yr Urdd ei fod yn bwysig cynnal gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd yn eu hargyhoeddi fod byw bywyd Cymraeg yng Nghymru yn gyffrous ac yn llawn hwyl. Mae’r Urdd drwy ei waith yn gwella sgiliau ei aelodau, ei wirfoddolwyr a’i staff. Mae’r Urdd hefyd yn gwneud cyfraniad economaidd i Gymru, yn enwedig yng Ngheredigion lle lleolir Gwersyll Llangrannog ac yng Ngwynedd lle lleolir Gwersyll Glan-llyn. Mae Gwersylloedd Caerdydd a Phentre Ifan hefyd yn ganolfannau o bwys i’r Urdd.

Eisteddfod yr Urdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy'n denu tua 90,000 o ymwelwyr ar draws chwe diwrnod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos y Sulgwyn. Gŵyl gystadleuol yw’r Eisteddfod gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu bob blwyddyn mewn cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio.

Rhain yw’r gorau o tua 40,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn y Genedlaethol yn dilyn Eisteddfodau Cylch a Sir sydd yn cael eu cynnal yn ystod misoedd y gwanwyn cyn yr Eisteddfod.

Yn 2019 bydd yr Eisteddfod yn cael ei gynnal ym Mae Caerdydd. Yn 2020, fe gynhelir yn Nimbych ac yn 2021 fe gynhelir yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin

Gwersylloedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dros 47,000 o breswylwyr yn ymweld a Gwersylloedd yr Urdd yn flynyddol. Nod y Gwersylloedd yw creu canolfannau sy'n cynnig cyfleoedd i blant, ieuenctid ac oedolion breswylio, addysgu a chymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg a Chymreig, diogel a chroesawgar.

Mae’r Urdd yn cynnig profiadau preswyl drwy ei wersylloedd antur awyr agored yn Llangrannog a Glan-llyn, a’i wersyll dinesig a chelfyddydol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae gan yr Urdd ganolfan ym Mhentref Ifan hefyd sydd yn gallu lletya 18, ac mae’n adnodd sydd yn cael ei rheoli o Langrannog, ar y cyd â phwyllgor lleol.

Yn 2013, bu dyn o’r enw Michael Makin mewn cysylltiad gyda’r Urdd – roedd yn chwilio am sefydliad ieuenctid fyddai â diddordeb derbyn adeilad yn Hwngari yn rhodd, ar yr amod y byddai’n cael ei ddefnyddio fel adnodd i bobl ifanc gael profiad o’r wlad ryfeddol. Yn nawr mae Tŷ Kisbodak Ház yn Hwngari ar agor i groesawi grwpiau o’r Urdd.

Mae’r rhan fwyaf yn dod i’r gwersylloedd dan ofal eu hysgolion, ac eraill yn dod o dan ofal staff yr Urdd.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnal ystod eang o glybiau chwaraeon cymunedol a digwyddiadau cenedlaethol chwaraeon i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Adran Chwaraeon, gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, bellach yn cyflogi 20 o staff ac yn hyfforddi dros 1,000 o wirfoddolwyr yn flynyddol. Mae hyn wedi trawsnewid gallu’r mudiad i gynnig gweithgareddau cyson i blant a phobl ifanc, gyda 150 o glybiau chwaraeon yn cael eu cynnal yn wythnosol ar draws y wlad, a dros 11,000 o blant yn mynychu.

Gemau Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Gŵyl aml chwaraeon i bobl ifanc Cymru yw Gemau Cymru. Cynhaliwyd ar draws dau benwythnos yn 2019 ym Mala a Chaerdydd.

Nod Gemau Cymru yw ysbrydoli pobl ifanc Cymru i barhau i ddysgu a datblygu fel athletwyr a dinasyddion. Gemau Cymru yw’r prif ddigwyddiad dwyieithog ar gyfer pobl ifanc yng nghalendr chwaraeon Cymru, sy’n hybu llwybrau chwaraeon Cymru.

Mae Gemau Cymru yn rhoi profiad cadarnhaol i bobl ifanc dalentog o ddigwyddiad aml-chwaraeon cynhwysol trwy gystadleuaeth chwaraeon berthnasol a phentref athletwyr.

Prentisiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi gweld llwyddiant prentisiaethau gydag adrannau chwaraeon ac awyr agored yr Urdd, ac mewn ymateb i ddiffyg prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yng Nghymru[4], mae Urdd Gobaith Cymru yn gweithio tuag at ddatblygu yr prentisiaethau ymhellach, gyda tharged o gynnig 100 o brentisiaethau mewn amryw o feysydd newydd erbyn 2022.[5]

Heddiw, mae 38 prentis dros 17 mlwydd oed yn cael eu hyfforddi yn y sectorau chwaraeon, awyr agored a gwaith ieuenctid. Mae tri aelod o staff yn gweithio'n llawn amser ar y cynllun a hyd at 50 o staff yn cael cyswllt cyson gyda'r prentisiaid. Y bwriad yw ehangu ein prentisiaethau i gynnig cyfleoedd mewn meysydd newydd fel marchnata, digwyddiadau, dylunio a gofal cwsmer.

Neges Heddwch ac Ewyllys Da[golygu | golygu cod y dudalen]

Bob blwyddyn ers 1922, mae plant a phobl ifanc Cymru wedi ysgrifennu ac anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da at blant a phobl ifanc y byd, a hynny ar Ddydd Ewyllys Da, sef 18 Mai. Datblygwyd y neges fel ymateb i ddigwyddiadau cyfoes, a dros y blynyddoedd derbyniwyd sawl ymateb o wledydd eraill. Mae'r broses o ysgrifennu ac anfon neges ar ran pobl ifanc Cymru i bobl ifanc ar draws y byd wedi ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol. Ers 1955, mae Urdd Gobaith Cymru bod yn gyfrifol am drefnu bod y neges yn cael ei hysgrifennu a'i rhannu bob blwyddyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]