Gemau Cymru

Oddi ar Wicipedia

Gŵyl aml-chwaraeon i bobl ifanc Cymru yw Gemau Cymru.[1] Fe'i threfnir gan Urdd Gobaith Cymru mewn cydweithrediad â mudiadau a sefydliadau chwaraeon eraill yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad yn flynyddol ac mae'n cynnwys cystadlaethau gymnasteg, athletau, nofio a champau tîm eraill.

Trefniant[golygu | golygu cod]

Logo Chwaraeon Cymru, un o gefnogwyr Gemau Cymru

Cynehelir y Gemau yng Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ac yng Nghaerdydd yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf. Daw'r gemau o dan adran Chwaraeon yr Urdd,[2] a'r Cyfarwyddwr, Gary Lewis.

Y prif bartneriaid yn 2019 oedd Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a Sport Cardiff. Ceir cydweithio agos hefyd gyda Gymnasteg Cymru.

Mae'r cystadleuwyr yn aros mewn "Pentref Athletwyr" gan fagu profiad tebyg i'r hyn â geir mewn campau mawr byd-eang "fel Gemau'r Gymanwlad".[3]

Mae'r Gemau hefyd yn llwyddo i ddenu cystadleuwyr nad sy'n aelodau o'r Urdd neu, efallai, yn draddodiadol yn dod o ardaloedd lle nad yw'r Urdd a'r Gymraeg yn gryf. Gwelir cystadleuwyr, er enghraifft, o glybiau nofio o ddinasoedd fel Casnewydd.[4] Gan hynny, mae'r Gemau yn ymestyn parth y Gymraeg fel iaith fyw a hefyd profiadau cystadlu pobl ifanc.

Bwydo i Gemau'r Gymanwlad ac Olympaidd[golygu | golygu cod]

Caiff y digwyddiad a chystadlu ynddi ei gweld fel cam at ddatblygu talentau i gynrychioli timau Cymru yn y Gemau'r Gymanwlad a hefyd o bosib tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd.[5]

Gwelir y Gemau fel rhan o ysgol i ddatblygu talent a magu diddordeb mewn chwaraeon gan gynnwys at Gemau'r Olympaidd fel gwelwyd cyn cynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yn Llundain. Disgwylid oddeutu 1,200 o bobl ifanc i gystadlu yn Gemau Cymru y flwyddyn honno.[6]

Campau[golygu | golygu cod]

Cynhelir cystadlaethau mewn amrywiaeth o gampau gan gynnwys:

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am nofio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am athletau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.