Pêl-rwyd

Oddi ar Wicipedia
Pêl-rwyd
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon tîm, chwaraeon peli Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tair rhan cwrt pêl-rwyd
Gwisg pêl-rwyd

Un o gampau chwaraeon yw pêl-rwyd, sy'n cael ei chwarae gyda phêl rhwng dau dîm o saith o chwaraewyr.

Dechreuodd y gamp yn Lloegr yn yr 1890au ac mae datblygiad y gêm yn deillio o fersiynau cynnar o bêl-fasged. Cafodd rheolau rhyngwladol eu cysoni ym 1960 a ffurfiwyd Ffederasiwn Rhyngwladol Pêl-rwyd a Phêl-fasged i Ferched (Saesneg: International Federation of Women’s Basketball and Netball)[1] cyn hepgor y gair Pêl-fasged. Yn 2011 penderfynwyd ailenwi'r ffederasiwn yn Ffederasiwn Pêl-rwyd Rhyngwladol (Saesneg: International Netball Federation) (INF)[1]

Mae dros 70 o dimau rhyngwladol pêl-rwyd wedi eu rhannu i bump o ranbarthau byd-eang[2].

Rheolau'r gêm[golygu | golygu cod]

Yn ystod y chwarae, mae chwaraewr yn cael dal ar y bêl am hyd at dair eiliad cyn gorfod pasio i chwaraewr arall neu saethu am gôl. Y tîm buddugol ydi'r tîm sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau o fewn 60 munud. Mae'r gêm yn cael ei chwarae dros 4 chwarter o 15 munud. Rhwng y chwarter cyntaf a'r ail chwarter a rhwng y trydydd a'r pedwerydd chwarter mae egwyl o 3 munud, ond rhwng yr ail a'r trydydd chwarter mae egwyl o 5 munud.

Mae gemau yn cael eu cynnal ar gwrt petryal gyda chylchoedd wedi eu codi ar bolion ar bob pen. Mae yna dair rhan i'r gwrt. Mae pob tîm yn ceisio pasio'r bêl i lawr y cwrt a'i saethu drwy'r cylch.

Mae safle arbennig i bob chwaraewyr sy'n diffinio'u rôl o fewn y tîm ac sy'n eu hatal rhag symud i ardaloedd arbennig o'r cwrt. Y saith safle ywː

  • Saethwr (Saesneg: Goal Shooter) (GS)
  • Ymosodwr Gôl (Saesneg: Goal Attack) (GA)
  • Asgellwr Ymosodol (Saesneg: Wing Attack) (WA)
  • Canolwr (Saesneg: Centre) (C)
  • Asgellwr Amddiffynnol (Saesneg: Wing Defence) (WD)
  • Amddiffynnwr Gôl (Saesneg: Goal Defence) (GD)
  • Golgeidwad (Saesneg: Goal Keeper) (GK)

Os oes angen newid chwaraewyr yn ystod yr amser chwarae, sef un o'r chwarteri 15 munud, rhaid dweud eich bod wedi cael eich anafu er mwyn cael eich newid, ond mae'n iawn ichi newid chwaraewr yn ystod yr egwyl heb orfod gofyn am ganiatâd.

Mae nifer o reoliau i'w dilyn yn ystod gêm. Mae'n rhaid bod 3 troedfedd neu 0.9 meter i ffwrdd o'r person sydd hefo'r pêl ac os ydych yn rhoi eich dwylo i fyny cyn bod eich tread 0.9 meter i ffwrdd mae'r dyfanwr yn chwythu y chibwan a rhaid sefyll wrth ymyl y person. Dydi eich breichiau ddim yn cael ymestyn dros chwaraewr rydych yn ei marcio pan nad ydych yn derbyn y pêl os rydych yn rhwystro'r person. Os gwnewch hyn, caiff y tîm arall bas rhydd. Gall y dyfarnwr chwythu'r chwiban os oes cam sefyll sef lle mae chwaraewr yn mynd i ardal lle nad ydynt i fod e.e. WA yn mynd i'r hanner cylch neu GA yn mynd i'r chwarter amddifynol. Os ydych yn rhoi eich troed y gwnaethoch glanio arni i lawr ar y llawr ddwy waith neu gymryd mwy na dwy gam cyn i'r bêl adael eich dwylo, mi fydd y bêl yn mynd i'r tîm arall. Byss pas hir yn cael ei rhoi hefyd os bydd y pêl yn cael ei tharo o ddwylo rhywun neu os bydd chwaraewr yn gwneud i chwaraewr ddisgyn drosodd wrth rhedeg i mewn iddynt. Gall tîm ildo pas i'r tim arall drwy lanio lle mae chwaraewr arall ynddo'n barod.[3]

Cwpan y Byd[golygu | golygu cod]

Mae cwpan y byd yn digwydd pob 4 mlynedd yng ngwahanol rhanau o'r byd.[4] Mae Awstralia wedi ennill y gwpan 11 gwaith allan o'r 14 cwpan y byd sydd wed digwydd. Mae Seland Newydd wedi ennill y 3 arall. Mae'r gystadleuaeth yn digwydd dros gyfnod o 9 diwrnod. Cafodd cystadleuaeth y cwpan y byd ei chynnal yn Lerpwl, Lloegr yn yn 2019. Cyn cwpan y byd 2019, trefn y timau oedd;-[5]

1. Awstralia

2. Jamaica

3. Lloegr

4. Seland Newydd

5. De Affrica

6. Wganda

7. Yr Alban

8. Gogledd Iwerddon

9. Malawi

10. Trinidad & Tobago

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "History of Netball". International Netball Federation.
  2. "Regions and Members". International Netball Federation.
  3. "Simple Netball". Simple Netball. Cyrchwyd https://www.simplenetball.co.uk/rules/. Check date values in: |access-date= (help)
  4. "Topend Sports". Topend Sports. Cyrchwyd https://www.topendsports.com/events/netball-world-champs/winners.htm. Check date values in: |access-date= (help)
  5. "International Netball Federation". International Netball Federation. Cyrchwyd https://netball.sport/events-and-results/current-world-rankings. Check date values in: |access-date= (help)
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-rwyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.